Trosolwg
Ymunodd Caroline â Phrifysgol Abertawe yn 2017 ar ôl sawl blwyddyn ym Mhrifysgol Southampton. Mae ei diddordebau ymchwil mewn Cyfraith Teulu a Chyfraith Gofal Iechyd.
Mae gan Caroline ddiddordeb penodol ym mhrosesau llunio'r gyfraith a'i heffaith ehangach, yn enwedig yng nghyd-destun cyfreithia mewn achosion prawf ym maes Cyfraith Gofal Iechyd. Yn ddiweddar, yn y cyd-destun hwn, mae hi wedi archwilio ymagweddau bywgraffyddol at astudio achosion prawf gyda Jonathan Montgomery (UCL).
Yn ogystal, mae ganddi ddiddordeb yn y materion cyfreithiol sy'n deillio o ddatblygu a defnyddio systemau cefnogi penderfyniadau clinigol, ac mae hi wedi bod yn gweithio gyda Jeremy Wyatt (Southampton) a James Thornton (Nottingham Trent) ar brosiectau yn y maes hwn.
Canolbwyntiodd ei hymchwil flaenorol ar lunio polisi cyhoeddus a dehongliadau cymdeithasol-gyfreithiol o gyfrifoldebau rhieni a charennydd. Mae ganddi ddiddordeb brwd ym materion cenhedlu drwy roddwyr, benthyg croth, clonio a rheoleiddio cenhedlu â chymorth yn fwy cyffredinol.
Mae hi'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.