Trosolwg
Mae Karen wedi'i chyflogi fel Darlithydd yn Ysgol y Gyfraith Abertawe a darlithydd cysylltiol gyda'r Brifysgol Agored. Bu'n gweithio gynt fel Rheolwr Hyfforddiant ar gyfer yr elusen Child Poverty Action Group, gan arbenigo mewn nawdd cymdeithasol a chyfraith tai. Mae ganddi brofiad helaeth o addysgu'r gyfraith ar amrywiaeth o gyrsiau busnes a phroffesiynol, gan gynnwys rhaglenni MBA ac ACCA, a bu ganddi rolau ymgynghori ym maes hyfforddi gweithredwyr cyfreithiol a pharagyfreithwyr a darparu cyrsiau dysgu o bell i fyfyrwyr Cyfraith Lloegr.
Mae Karen wedi addysgu yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe ers 1999 a bu'n Gyfarwyddwr rhaglen Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion yr Ysgol rhwng 2003 a 2015.