Trosolwg
Mae Billy Seagrim yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton. Mae Billy hefyd yn fargyfreithiwr yn 9 Park Place Chambers, Caerdydd (rhan-amser). Ar hyn o bryd, mae wrthi'n ysgrifennu testun ymarferydd ar gyfer Bloomsbury Publishing ar gyfraith diogelu plant (cangen o gyfraith teulu).
Graddiodd Billy o Brifysgol Abertawe yn 2005 (LLB (Anrh.) dosbarth cyntaf). Cwblhaodd Gwrs y Bar ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2007 (Rhagoriaeth). Daeth Billy'n ddisgybl ac yna'n denant 9 Park Place Chambers, gan ymarfer ym mhob maes y gyfraith ac yn ddiweddarach gan arbenigo mewn cyfraith teulu. Cafodd Billy ei argymell gan 'Chambers and Partners' Cyfeiriadur y Bar (2015 a 2016) ac mae wedi ymddangos mewn achosion yr adroddir amdanynt.
Mae Billy wedi darlithio ar lefel prifysgol ers 2014 (gan ddechrau fel darlithydd ac yna fel Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd a bellach fel Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe). Mae diddordebau addysgu Billy'n cynnwys pynciau sy'n ymwneud ag ymarfer, megis eiriolaeth a hefyd gyfraith teulu. Mae Billy'n ymrwymedig i wella ei ymarfer addysgu ac felly mae'n astudio gradd MA mewn Addysg ym Mhrifysgol Caerfaddon (rhan-amser); mae wedi ennill Cymrodoriaeth Advance HE/HEA (2018); ac mae wedi cyflwyno mewn cynadleddau rhyngwladol a chenedlaethol ar faterion addysgegol.
Caiff Billy ei wahodd yn fynych i roi darlithoedd a hyfforddiant i aelodau sefydledig y proffesiwn cyfreithiol (megis bargyfreithwyr newydd gymhwyso ar gyfer Cylchdaith Cymru a Chaer) ac i weithwyr cymdeithasol awdurdodau lleol.