Grove

Mr Timothy Brown

Uwch-diwtor Clinigol, Medicine

Cyfeiriad ebost

243
Llawr Cyntaf
Adeilad Grove
Campws Singleton

Trosolwg

Mae Dr Tim Brown yn gweithio’n rhan-amser yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a’i brif rôl yw arweinydd myfyrwyr Meddygaeth i Raddedigion blwyddyn 2. Yn ogystal â’r rôl hon, mae’n rhan o’r gwaith o addysgu pynciau ac anatomi gastroberfeddol/llawfeddygol, ac yn diwygio a gosod safonau arholiadau ar gyfer y myfyrwyr.

Cyn hyn roedd yn Ymgynghorydd mewn Llawfeddygaeth Gyffredinol a Llawfeddygaeth  Bancreatig-y bustl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (Bwrdd Iechyd Bae Abertawe erbyn hyn) ac yno sefydlodd yr uned bancreatig, ac roedd yn rhan hefyd o’r gwaith o gychwyn yr ysgol feddygaeth yn Abertawe. Yn ystod y cyfnod hwn, addysgodd fyfyrwyr meddygol o Ysgolion Meddygaeth Abertawe a Caerdydd, yn ogystal â bod yn rhan weithredol o addysgu hyfforddeion ac Ymgynghorwyr ar nifer o gyrsiau y Royal College of Surgeons of England.

Mae ei brif ddiddordebau eraill yn cynnwys llawfeddygaeth dramor ac mae’n arwain teithiau ‘Torgest’ rheolaidd er mwyn cyflawni llawdriniaethau ac addysgu hyfforddeion yn rhai o wledydd amrywiol Affrica, fel rhan o dimau sy’n gysylltiedig ag Operation Hernia a Hernia International. Mae wedi bod yn rhan o lawdriniaethau yn Nepal, Bangladesh ac Affganistan hefyd.

Meysydd Arbenigedd

  • Gosod safonau a marcio arholiadau
  • Addysgu pynciau llawfeddygaeth gyffredinol
  • Addysgu pynciau gastroberfeddol, yn enwedig pancreatig-y bustl
  • Addysgu anatomi gastroberfeddol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Pynciau gastroberfeddol
Anatomi gastroberfeddol
Pynciau llawfeddygol cyffredinol
Adborth ar addysgu a dysgu

Ymchwil