-
SHE114
Personal & Professional Attributes
This module focuses on foundational knowledge of the principles and responsibilities that underpin safe and effective practice for paramedics and introduces learners to the expectations of professional behaviour, including the standards of conduct, performance and ethics set out by the HCPC.
The module will introduce you to some of the domains within the College of Paramedics curriculum guidance and facilitates the development of interpersonal skills that support inclusive engagement with service users, families, carers and the wider community. You¿ll be introduced to the core knowledge and practical skills that will support your ability to perform basic life support independently and as part of a team.
The module introduces a variety of concepts directly related to the paramedic profession and is supported by a range of e-learning approaches that will facilitate learning and development aligned to this module.
Practice based learning will be supported by a placement with the Welsh Ambulance Service NHS Trust¿s Non-Emergency Patient Transport Services (NEPTS), enabling you to engage and communicate with a wide range of patients with varying needs. This foundational placement will prepare you for the world of professional practice, offering an insight into the pre-hospital environment and allowing application of taught theory.
-
SHE114C
Rhinweddau Personol a Phroffesiynol
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar wybodaeth sylfaenol am yr egwyddorion a'r cyfrifoldebau sy'n sail i ymarfer diogel ac effeithiol ar gyfer parafeddygon ac yn cyflwyno dysgwyr i ddisgwyliadau o ran ymddygiad proffesiynol, gan gynnwys safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg a bennir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
Bydd y modiwl yn eich cyflwyno i rai o feysydd arweiniad cwricwlwm y Coleg Parafeddygaeth ac yn hwyluso datblygiad sgiliau rhyngbersonol sy'n cefnogi ymgysylltiad cynhwysol â defnyddwyr gwasanaethau, teuluoedd, gofalwyr a'r gymuned ehangach. Cewch eich cyflwyno i'r wybodaeth graidd a'r sgiliau ymarferol a fydd yn cefnogi eich gallu i gyflawni cymorth bywyd sylfaenol ar eich pen eich hun ac fel rhan o dîm. Mae'r modiwl yn cyflwyno amrywiaeth o gysyniadau sy'n perthyn yn uniongyrchol i'r proffesiwn parafeddygol a chaiff ei gefnogi gan amrywiaeth o ymagweddau e-ddysgu a fydd yn hwyluso dysgu a datblygiad sy'n cyd-fynd â'r modiwl hwn.
Cefnogir dysgu sy'n seiliedig ar ymarfer gan leoliad gwaith gyda Gwasanaethau Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt yn Rhai Brys (NEPTS) Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, gan eich galluogi i ymgysylltu a chyfathrebu ag amrywiaeth eang o gleifion a chanddynt amrywiaeth eang o anghenion amrywiol. Bydd y lleoliad gwaith sylfaenol hwn yn eich paratoi ar gyfer byd ymarfer proffesiynol, gan gynnig cipolwg ar yr amgylchedd cyn-ysbyty a chan eich galluogi i roi'r ddamcaniaeth rydych chi wedi'i dysgu ar waith.
-
SHE115
Anatomy & Physiology (1)
This module continues with the College of Paramedics¿ themes and domains of the curriculum framework and focuses on developing knowledge around anatomy and physiology of systems within the human body, exploring both normal and abnormal changes and how abnormal pathological changes are represented by clinical features associated with common conditions. This module will also develop your knowledge around drug calculations. You will be supported with academic skills and expected to engage with the e-learning component of this module which will support your educational journey and prepare you for summative assessments.
-
SHE115C
Anatomeg a Ffisioleg
Mae'r modiwl hwn yn parhau â themâu a pharthau fframwaith cwricwlwm y Coleg Parafeddygaeth, ac mae'n canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth am anatomeg a ffisioleg systemau'r corff dynol, gan archwilio newidiadau normal ac anarferol, a sut y caiff newidiadau patholegol anarferol eu cynrychioli gan nodweddion clinigol sy'n gysylltiedig â chyflyrau cyffredin. Bydd y modiwl hwn hefyd yn datblygu eich gwybodaeth am gyfrifo meddyginiaethau. Byddwch yn cael eich cefnogi gan sgiliau academaidd, a disgwylir i chi ymgysylltu â chydran e-addysgu'r modiwl hwn a fydd yn cefnogi eich taith addysgu ac yn eich paratoi ar gyfer asesiadau crynodol.¿
-
SHE118
Care across the lifespan
This module builds on prior knowledge and aims to draw connections between practice experience and the integration of new knowledge.
This module will develop your understanding of human growth across the lifespan. You¿ll develop knowledge about pregnancy, neonate, paediatric, adolescence, older adults, end of life and mental health issues.
Communication skills are enhanced within this module, facilitating your ability to communicate with anxious and distressed service users and provide learners with a tool kit to support in the delivery of breaking bad news.
The module will develop your ability to safeguard vulnerable service users and develop a knowledge base around safeguarding service users and include forced marriage, honour based violence, FGM and modern slavery, in line with professional frameworks.
Practice based learning will be supported by placements on an emergency ambulance and or a rapid response vehicle within the Welsh Ambulance Service.
As with previous modules, learning and development will be supported by an e-learning approach.
-
SHE118C
Gofal gydol oes
Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar wybodaeth flaenorol a¿i nod yw creu cysylltiadau rhwng ymarfer a phrofiad ac integreiddio gwybodaeth newydd.
Bydd y modiwl hwn yn datblygu eich dealltwriaeth o dwf gydol oes bod dynol. Byddwch yn datblygu gwybodaeth am faterion beichiogrwydd, babanod newydd-anedig, paediatreg, llencyndod, oedolion h¿n, diwedd oes ac iechyd meddwl.
Caiff sgiliau cyfathrebu eu gwella yn ystod y modiwl hwn, gan hwyluso eich gallu i gyfathrebu â defnyddwyr gwasanaeth sy'n bryderus neu dan straen ac mae¿n darparu pecyn cymorth i ddysgwyr i¿w cefnogi wrth rannu newyddion drwg.
Bydd y modiwl yn datblygu eich gallu i ddiogelu defnyddwyr gwasanaeth sy'n agored i niwed a datblygu sylfaen wybodaeth am ddiogelu defnyddwyr gwasanaeth ac yn cynnwys priodas dan orfod, trais ar sail anrhydedd, anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), a chaethwasiaeth fodern yn unol â fframweithiau proffesiynol.
Caiff dysgu ar sail ymarfer ei gefnogi gan leoliadau gwaith ar ambiwlans argyfwng a/neu gerbyd ymateb cyflym gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Fel y modiwlau blaenorol, caiff dysgu a datblygu eu cefnogi gan ymagwedd e-ddysgu.¿¿
-
SHE119T
Bridging Module (Paramedic)
This module is designed for you as an Emergency Medical Technician (EMT) who wants to take the next step into higher education and work towards a recordable paramedic qualification. Throughout the module, you will be introduced to the core principles that underpin paramedic practice, including research, ethics, law, and health promotion. You will also revisit key areas of anatomy and pathophysiology that you previously learned during your EMT training, giving you the chance to deepen your understanding and build the strong clinical foundation you¿ll need as you progress toward becoming a paramedic.
-
SHE119TC
Modiwl Pontio (Parafeddyg)
Mae'r modiwl hwn wedi¿i gynllunio ar gyfer Technegwyr Argyfwng Meddygol (EMT) sy'n awyddus i gymryd y cam nesaf i addysg uwch a gweithio tuag at gymhwyster parafeddyg a gydnabyddir. Drwy gydol y modiwl, byddwch yn cael cyflwyniad i'r egwyddorion craidd sy'n sail i ymarfer parafeddygol, gan gynnwys ymchwil, moeseg, y gyfraith a hybu iechyd. Byddwch hefyd yn ailystyried meysydd allweddol pathoffisioleg ac anatomeg a ddysgoch chi yn ystod eich hyfforddiant EMT, gan roi cyfle i chi ddyfnhau eich dealltwriaeth ac adeiladu ar y sylfaen glinigol gadarn y bydd ei hangen arnoch wrth i chi weithio tuag at ddod yn barafeddyg.
-
SHE120
Medical & Trauma Conditions in the Emergency & Unscheduled Care Setting
Building on SHE115 Anatomy and Physiology (1), this module will introduce you to the management of trauma and common medical conditions within emergency and unscheduled care. You will explore physiological changes from trauma, the impact of human factors, and the principles of shock, triage, and major incident management. Practical skills in patient extrication and immobilisation will be developed using evidence-based approaches.
The module also examines common medical conditions and associated pharmacology, alongside the influence of social and cultural factors on health and well-being. Value-based care, diversity, and inclusivity are explored through engagement with community leaders.
You will enhance your communication and teamwork skills, engage in reflective practice, and participate in peer-led activities such as viva voce. Learning is supported through e-learning and practice placements with the Welsh Ambulance Service on emergency ambulances and/or rapid response vehicles.
-
SHE120C
Cyflyrau Meddygol a Thrawma mewn Sefyllfaoedd Gofal Brys a heb ei Gynllunio
Gan adeiladu ar SHE115 Anatomeg a Ffisioleg (1), bydd y modiwl hwn yn eich cyflwyno i reoli trawma a chyflyrau meddygol cyffredin o ofal brys a gofal heb ei drefnu. Byddwch yn archwilio newidiadau ffisiolegol o drawma, effaith ffactorau dynol, ac egwyddorion sioc, brysbennu, a rheoli digwyddiadau mawr. Bydd sgiliau ymarferol mewn rhyddhau a sefydlogi cleifion yn cael eu datblygu gan ddefnyddio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Mae'r modiwl hefyd yn archwilio cyflyrau meddygol cyffredin a ffarmacoleg gysylltiedig, ochr yn ochr â dylanwad ffactorau cymdeithasol a diwylliannol ar iechyd a lles. Archwilir gofal sy'n seiliedig ar werthoedd, amrywiaeth a chynhwysiant trwy ymgysylltu ag arweinwyr cymunedol. Byddwch yn gwella eich sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm, yn cymryd rhan mewn ymarfer myfyriol, ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dan arweiniad cyfoedion fel arholiad llafar.Cefnogir dysgu drwy e-ddysgu a lleoliadau ymarfer gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar ambiwlansys brys a/neu gerbydau ymateb cyflym.
-
SHE200
Clinical Leadership in Practice
This module explores the concept of clinical leadership and the influence various approaches will have on managing clinical situations and informing clinical decision making.
Learners will begin to understand the links between effective leadership; critical thinking, ethical decision making, communication, and situational awareness. These non-technical skills will be analysed within the context of various clinical situations; enabling learners to apply this knowledge to support their ability in applying new technical skills.
The module will facilitate learners to work safely and effectively within and across various professional settings; and enhance their ability to evaluate their own practice and the impact this has on self, others and patient outcomes. This module builds on the principles of leadership, continuing with the focus on self and building on the principle of working with others.
Practice based learning is supported within a variety of contexts that include: Emergency department, Theatres, Maternity, Paediatrics and within the Welsh Ambulance Service on an emergency ambulance and or a rapid response vehicle.
The module adopts a blended approach to learning and development and is supported by a variety of e-learning that will facilitate growth.
-
SHE200C
Arweinyddiaeth Glinigol ar Waith
Mae'r modiwl hwn yn archwilio cysyniad arweinyddiaeth glinigol a'r dylanwad y bydd yr ymagweddau amrywiol yn ei gadael ar reoli sefyllfaoedd clinigol a llywio penderfyniadau clinigol.
Bydd y dysgwyr yn dechrau deall y cysylltiadau rhwng arweinyddiaeth effeithiol: meddwl yn feirniadol, gwneud penderfyniadau moesegol, cyfathrebu ac ymwybyddiaeth o sefyllfaoedd. Caiff y sgiliau annhechnegol hyn eu dadansoddi yng nghyd-destun sefyllfaoedd clinigol amrywiol, gan alluogi'r dysgwyr i ddefnyddio'r wybodaeth hon i ategu eu gallu wrth roi sgiliau technegol newydd ar waith.
Bydd y modiwl yn galluogi'r dysgwyr i weithio'n ddiogel ac yn effeithiol mewn lleoliadau proffesiynol amrywiol, ac yn gwella eu gallu i werthuso eu hymarfer eu hunain a'i effaith arnynt hwy eu hunain, pobl eraill a chanlyniadau cleifion. Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar egwyddorion arweinyddiaeth, gan barhau â'r pwyslais ar yr hun ac adeiladu ar egwyddor gweithio gydag eraill.
Mae dysgu ar sail ymarfer yn cael ei gefnogi mewn amrywiaeth o gyd-destunau sy'n cynnwys: adrannau achosion brys, theatrau llawdriniaethau, unedau mamolaeth, unedau pediatreg ac yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru mewn ambiwlans argyfwng a/neu gerbyd ymateb cyflym.
Mae'r modiwl yn mabwysiadu ymagwedd gyfunol at ddysgu a datblygu ac yn cael ei ategu gan amrywiaeth o adnoddau e-ddysgu a fydd yn hwyluso twf.
-
SHE200T
Clinical Leadership in Practice
This module will explore the concept of clinical leadership and the influence that different leadership approaches will have on how you manage clinical situations and make informed clinical decisions. You will begin to understand the links between effective leadership, critical thinking, ethical decision making, communication, and situational awareness. You will analyse these non-technical skills within a range of clinical situations, enabling you to apply this knowledge to support your development and your ability to apply new technical skills.
The module will enable you to work safely and effectively within and across various professional settings, enhancing your ability to evaluate your own practice and recognise the impact this has on yourself, others, and patient outcomes. You will build on the core principles of leadership, maintaining a focus on self-awareness while further developing your ability to work effectively with others.
Your practice-based learning will take place across a variety of clinical environments, including the Emergency Department, Theatres, Maternity, Paediatrics, and within the Welsh Ambulance Service on an emergency ambulance and/or a rapid response vehicle. The module will adopt a blended approach to learning and development, supported by a variety of e-learning resources designed to facilitate your growth.
-
SHE200TC
Arweinyddiaeth Glinigol ar Waith
Bydd y modiwl hwn yn archwilio'r cysyniad o arweinyddiaeth glinigol a dylanwad dulliau arweinyddiaeth gwahanol ar y ffordd rydych chi'n rheoli sefyllfaoedd clinigol ac yn gwneud penderfyniadau clinigol deallus. Byddwch chi'n dechrau deall y cysylltiadau rhwng arweinyddiaeth effeithiol, meddwl yn feirniadol a gwneud penderfyniadau moesegol, cyfathrebu ac ymwybyddiaeth sefyllfaol. Byddwch yn dadansoddi'r sgiliau annhechnegol hyn mewn ystod o sefyllfaoedd clinigol, gan eich galluogi chi i gymhwyso'r wybodaeth hon i gefnogi eich datblygiad a'ch gallu i gymhwyso sgiliau technegol newydd.
Bydd y modiwl hwn yn eich galluogi i weithio'n ddiogel ac yn effeithiol mewn lleoliadau proffesiynol amrywiol ac ar eu traws, gan wella eich gallu i werthuso eich arfer eich hun a chydnabod effaith hyn arnoch chi eich hun, eraill a chanlyniadau cleifion. Byddwch yn adeiladu ar egwyddorion craidd arweinyddiaeth, gan gynnal ffocws ar hunanymwybyddiaeth wrth ddatblygu eich gallu i weithio'n effeithiol gydag eraill.
Cynhelir eich dysgu ar sail ymarfer ar draws amrywiaeth o amgylcheddau clinigol, gan gynnwys yr Adran Achosion Brys, Theatrau, Mamolaeth, Pediatreg ac yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru mewn ambiwlans argyfwng a/neu gerbyd ymateb cyflym. Bydd y modiwl yn defnyddio ymagwedd gyfunol at ddysgu a datblygu, wedi'i chefnogi gan amrywiaeth o adnoddau e-ddysgu i hwyluso eich datblygiad.
-
SHE204
Mental Health & Social Exclusion
This module aims to build on previous knowledge and experience, providing contextualised understanding of a variety of concepts relating to mental health and the impact of social exclusion, within the context of paramedic practice. The module adopts an interactive and blended approach, allowing learners to engage with and learn from subject specialists, service users and learners associated with the allied health professions. Learners will gain practical skills related to suicide prevention and managing self-harm.
Theoretical knowledge will be facilitated through directed self-study and learners will be provided with opportunities to engage with and learn from service users as well as online learning to enhance and develop practice. The focus of the module is to develop practical approaches, which can be applied to support effective and appropriate outcomes that meet the needs of individuals experiencing mental health and/ or social exclusion.
Practice based learning will be supported by a 2 week placement with mental teams, facilitated by health boards in Wales.
-
SHE204C
Iechyd Meddwl ac Eithrio Cymdeithasol
Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth flaenorol a phrofiad, gan ddarparu dealltwriaeth gyd-destunol ar gyfer amrywiaeth o gysyniadau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ac effaith allgau cymdeithasol, mewn cyd-destun ymarfer parafeddygol. Mae'r modiwl yn mabwysiadu ymagwedd ryngweithiol a chyfunol, gan alluogi dysgwyr i weithio gydag arbenigwyr pwnc, defnyddwyr gwasanaeth a dysgwyr sy'n gysylltiedig â'r proffesiynau perthynol i iechyd a chanddynt. Bydd dysgwyr yn ennill sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig ag atal hunanladdiad a rheoli hunan-niweidio.
Caiff gwybodaeth ddamcaniaethol ei hwyluso drwy hunanastudio a arweinir a darperir cyfleoedd i ddysgwyr weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a dysgu ganddynt yn ogystal â gwella a datblygu ymarfer. Ffocws y modiwl yw datblygu ymagweddau ymarferol, y gellir eu defnyddio i gefnogi canlyniadau effeithiol a phriodol sy'n diwallu anghenion unigolion sy'n profi problemau iechyd meddwl a/neu allgau cymdeithasol.
Caiff dysgu sy'n seiliedig ar ymarfer ei gefnogi gan leoliad pythefnos gyda thimoedd meddwl, wedi'i hwyluso gan fyrddau iechyd Cymru.
-
SHE204T
Mental Health and Social Exclusion
This module aims to build on previous knowledge and experience, providing contextualised understanding of a variety of concepts relating to mental health and the impact of social exclusion, within the context of paramedic practice. The module adopts an interactive and blended approach, allowing learners to engage with and learn from subject specialists, service users and learners associated with the allied health professions. Learners will gain practical skills related to suicide prevention and managing self-harm.
Theoretical knowledge will be facilitated through directed self-study and learners will be provided with opportunities to engage with and learn from service users as well as online learning to enhance and develop practice. The focus of the module is to develop practical approaches, which can be applied to support effective and appropriate outcomes that meet the needs of individuals experiencing mental health and/ or social exclusion.
Practice based learning will be supported by a 2 week placement with mental teams, facilitated by health boards in Wales.
-
SHE204TC
Iechyd Meddwl ac Eithrio Cymdeithasol
Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth flaenorol a phrofiad, gan ddarparu dealltwriaeth gyd-destunol ar gyfer amrywiaeth o gysyniadau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ac effaith allgau cymdeithasol, mewn cyd-destun ymarfer parafeddygol. Mae'r modiwl yn mabwysiadu ymagwedd ryngweithiol a chyfunol, gan alluogi dysgwyr i weithio gydag arbenigwyr pwnc, defnyddwyr gwasanaeth a dysgwyr sy'n gysylltiedig â'r proffesiynau perthynol i iechyd a chanddynt. Bydd dysgwyr yn ennill sgiliau arbenigol sy'n gysylltiedig ag atal hunanladdiad a rheoli hunan-niweidio.
Caiff gwybodaeth ddamcaniaethol ei hwyluso drwy hunanastudio a arweinir a darperir cyfleoedd i ddysgwyr weithio gyda defnyddwyr gwasanaeth a dysgu ganddynt yn ogystal â gwella a datblygu ymarfer. Ffocws y modiwl yw datblygu ymagweddau ymarferol, y gellir eu defnyddio i gefnogi canlyniadau effeithiol a phriodol sy'n diwallu anghenion unigolion sy'n profi problemau iechyd meddwl a/neu allgau cymdeithasol.
Caiff dysgu sy'n seiliedig ar ymarfer ei gefnogi gan leoliad pythefnos gyda thimoedd meddwl, wedi'i hwyluso gan fyrddau iechyd Cymru.
-
SHE220C
Rheoli Cyflyrau Meddygol y Tu Allan i'r Ysbyty
Gan adeiladu ar y modiwlau blaenorol a phrofiad ymarferol, bydd y modiwl hwn yn galluogi'r dysgwyr i wella eu dealltwriaeth o bathoffisioleg a meithrin sgiliau i reoli'n effeithiol ofal yn y gymuned a'r tu allan i'r ysbyty. Bydd y modiwl yn rhoi cyfle i'r dysgwyr ymgymryd ag ymgynghoriad diogel sy'n cynnwys materion ehangach iechyd a gofal cymdeithasol, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau clinigol priodol sy'n diwallu anghenion y claf a'i berthnasau neu ei ofalwyr. Bydd y dysgwyr yn meithrin eu dealltwriaeth o hybu iechyd a llwybrau gofal priodol, ac yn gwella eu sgiliau er mwyn rheoli cleifion yn effeithiol ac yn ddiogel yn y gymuned.
Caiff dysgu ar sail problemau ei ddatblygu drwy ddefnyddio ymagwedd gyfunol at ddatblygiad proffesiynol, a bydd cyfleoedd i ddysgwyr weithio a dysgu mewn lleoliad rhyngbroffesiynol.
Caiff dysgu ar sail ymarfer ei ategu gan leoliad gwaith am wythnos mewn hosbis a lleoliad gwaith arall am wythnos yn y gymuned drwy gymorth timau gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Bydd lleoliadau gwaith eraill mewn ambiwlans argyfwng a/neu gerbyd ymateb cyflym gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Bydd y modiwl yn cael ei ategu gan e-ddysgu.
-
SHE220T
Out of Hospital Management of Medical Conditions
Building on the previous modules and practice experience, this module will enable learners to enhance their understanding of pathophysiology and develop skills to effectively manage community based care. The module will facilitate learners to undertake a safe consultation that includes the broader issues of health and social care, enabling appropriate clinical decision making that meets the needs of the patient and their relatives or carers. Leaners will develop their understanding of health promotion, appropriate pathways of care and enhance their skills towards effective and safe management of patients within the community setting.
Developing problem based learning will be facilitated using a blended approach for professional development; with opportunities for learners to work and learn within an interprofessional setting.
Practice based learning will be supported by a week placement in a hospice and a further week placement within the community supported by Palliative and End of Life Care teams. Further placements will be undertaken on an emergency ambulance and or rapid response vehicle with the Welsh Ambulance Service.
The module will be supported by e- learning.
-
SHE220TC
Rheoli Cyflyrau Meddygol y Tu Allan i'r Ysbyty
Gan adeiladu ar y modiwlau blaenorol a phrofiad ymarferol, bydd y modiwl hwn yn galluogi'r dysgwyr i wella eu dealltwriaeth o bathoffisioleg a meithrin sgiliau i reoli'n effeithiol ofal yn y gymuned a'r tu allan i'r ysbyty. Bydd y modiwl yn rhoi cyfle i'r dysgwyr ymgymryd ag ymgynghoriad diogel sy'n cynnwys materion ehangach iechyd a gofal cymdeithasol, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau clinigol priodol sy'n diwallu anghenion y claf a'i berthnasau neu ei ofalwyr. Bydd y dysgwyr yn meithrin eu dealltwriaeth o hybu iechyd a llwybrau gofal priodol, ac yn gwella eu sgiliau er mwyn rheoli cleifion yn effeithiol ac yn ddiogel yn y gymuned.
Caiff dysgu ar sail problemau ei ddatblygu drwy ddefnyddio ymagwedd gyfunol at ddatblygiad proffesiynol, a bydd cyfleoedd i ddysgwyr weithio a dysgu mewn lleoliad rhyngbroffesiynol.
Caiff dysgu ar sail ymarfer ei ategu gan leoliad gwaith am wythnos mewn hosbis a lleoliad gwaith arall am wythnos yn y gymuned drwy gymorth timau gofal lliniarol a gofal diwedd oes. Bydd lleoliadau gwaith eraill mewn ambiwlans argyfwng a/neu gerbyd ymateb cyflym gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Bydd y modiwl yn cael ei ategu gan e-ddysgu.
-
SHE223T
Evidence-Informed Practice through the lens of Mental Health and Social Exclusion
This module will enhance your understanding of research, evidence-informed practice, and the broader contextual challenges of mental health and social exclusion within paramedic practice. Building on your prior learning, the module will equip you with the critical thinking and practical skills necessary to respond to the evolving demands of modern healthcare.
You will explore the principles of research and evidence appraisal, developing the ability to formulate practice-led questions and critically examine literature. A central focus will be understanding how research directly influences paramedic practice, particularly within Wales and the wider UK. This learning will be supported by contributions from members of the Welsh Ambulance Services NHS Trust, who will share real-world examples of research-driven change, from study conception to measurable outcomes in clinical practice.
In parallel, you will develop a contextualised understanding of mental health, suicide prevention, self-harm, and the effects of social exclusion. Through interactive and blended learning¿including contributions from subject specialists, allied health professionals, and individuals with lived experience¿you will gain both theoretical insights and practical approaches for supporting people facing mental health challenges or social marginalisation.
Your practice-based learning will be reinforced through a two-week placement with mental health teams across Welsh health boards. This experience, alongside e-learning and directed self-study, will foster your ability to apply evidence-informed, person-centred care in real-world settings.
This integrated approach will prepare you to engage critically with evidence, understand its impact on practice, and deliver compassionate, informed care to individuals facing complex health and social challenges.
-
SHE223TC
Ymarfer sy'n seiliedig ar Dystiolaeth drwy lens Iechyd Meddwl ac Allgáu Cymdeithasol
Bydd y modiwl hwn yn gwella eich dealltwriaeth o ymchwil, ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a'r heriau cyd-destunol ehangach sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl ac allgáu cymdeithasol mewn ymarfer parafeddygol. Gan adeiladu ar eich dysgu blaenorol, bydd y modiwl yn rhoi i chi¿r sgiliau meddwl beirniadol ac ymarferol sy'n angenrheidiol i ymateb i ofynion datblygol gofal iechyd modern.
Byddwch yn archwilio egwyddorion ymchwil ac asesu tystiolaeth, gan ddatblygu'r gallu i lunio cwestiynau sy'n cael eu harwain gan ymarfer ac archwilio llenyddiaeth yn feirniadol. Bydd ffocws canolog ar ddeall sut mae ymchwil yn dylanwadu'n uniongyrchol ar ymarfer parafeddygol, yn enwedig yng Nghymru a'r DU ehangach. Bydd y dysgu hwn yn cael ei gefnogi gan gyfraniadau gan aelodau o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a fydd yn rhannu enghreifftiau o newid sy'n cael ei sbarduno gan ymchwil yn y byd go iawn, o greu astudiaethau i ganlyniadau mesuradwy mewn ymarfer clinigol.
Ochr yn ochr â hynny, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gyd-destunol o iechyd meddwl, atal hunanladdiad, hunan-niweidio, ac effeithiau allgáu cymdeithasol. Drwy ddysgu rhyngweithiol a chyfunol ¿ gan gynnwys cyfraniadau gan arbenigwyr pwnc, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ac unigolion â phrofiad byw ¿ byddwch yn meithrin dealltwriaeth ddamcaniaethol a dulliau ymarferol i gefnogi pobl sy'n wynebu heriau iechyd meddwl neu ymyleiddio cymdeithasol.
Bydd eich dysgu ymarferol yn cael ei atgyfnerthu trwy leoliad pythefnos o hyd gyda thimau iechyd meddwl ar draws byrddau iechyd Cymru. Bydd y profiad hwn, ochr yn ochr ag e-ddysgu ac astudio hunangyfeiriedig, yn meithrin eich gallu i gymhwyso gofal sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n canolbwyntio ar y person mewn lleoliadau byd go iawn.
Bydd y dull integredig hwn yn eich paratoi i ymdrin yn feirniadol â thystiolaeth, deall ei heffaith ar ymarfer, a darparu gofal tosturiol a gwybodus i unigolion sy'n wynebu heriau iechyd a chymdeithasol cymhleth.
-
SHE224T
The Continuum of Care
This module builds on your foundational knowledge to deepen your understanding of how acute and chronic conditions develop and progress. You¿ll explore the pathophysiology and underlying pathology of time-critical emergencies as well as conditions managed in community settings. The focus is on applying this knowledge to make safe, evidence-based clinical decisions and deliver effective therapeutic interventions.
You¿ll learn how to carry out comprehensive consultations that consider not only the patient¿s immediate needs but also the wider health and social care context¿supporting truly person-centred care for individuals, families, and carers. The module also emphasises health promotion, appropriate care pathways, and strategies for managing patients safely and effectively outside of hospital environments.
Through a systematic approach to assessment, critical thinking, and hands-on technical skills, you¿ll develop the confidence to manage complex cases in urgent and community care settings. Collaborative practice is key, so you¿ll strengthen your ability to work within interprofessional teams, communicate effectively, and contribute to shared decision-making in dynamic, real-world scenarios.
-
SHE224TC
Continwwm Gofal
Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar eich gwybodaeth sylfaenol i ddyfnhau eich dealltwriaeth o sut mae cyflyrau acíwt a chronig yn datblygu ac yn gwaethygu. Byddwch yn archwilio pathoffisioleg a phatholeg sylfaenol argyfyngau amser-critigol yn ogystal â chyflyrau a reolir mewn lleoliadau cymunedol. Mae'r ffocws ar gymhwyso'r wybodaeth hon i wneud penderfyniadau clinigol diogel, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, a chyflawni ymyriadau therapiwtig effeithiol.
Byddwch yn dysgu sut i gynnal ymgynghoriadau cynhwysfawr sy'n ystyried anghenion uniongyrchol y claf yn ogystal â'r cyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol ehangach¿gan gefnogi gofal sydd wir yn canolbwyntio ar y person, i unigolion, teuluoedd a gofalwyr. Mae'r modiwl hefyd yn pwysleisio hybu iechyd, llwybrau gofal priodol, a strategaethau ar gyfer rheoli cleifion yn ddiogel ac yn effeithiol y tu allan i amgylcheddau ysbyty.
Drwy ymagwedd systematig at asesu, meddwl yn feirniadol, a sgiliau technegol ymarferol, byddwch yn magu'r hyder i reoli achosion cymhleth mewn lleoliadau gofal brys a chymunedol. Mae ymarfer cydweithredol yn allweddol, felly byddwch chi'n atgyfnerthu eich gallu i weithio mewn timau rhyngbroffesiynol, cyfathrebu'n effeithiol, a chyfrannu at wneud penderfyniadau ar y cyd mewn senarios deinamig, byd go iawn.
-
SHE320
Transition into professional practice
This module aims to support learners as they prepare to make the transition from learner to registered paramedic. The module will aim to equip learners to navigate a changing professional landscape and negotiate the shift in professional boundaries. The module will serve as a platform for generating critical insights around organisational structures and introduce the leadership principles that relate to quality improvement processes and change management. The module will prepare learners for employment within a dynamic and challenging context and will be delivered in partnership with the Welsh Ambulance Service NHS Trust (WAST) as a key stakeholder.
The module will consolidate learning around professionalism, frameworks for professional practice and provide insight around career development. As the module works closely with Ambulance Trusts, the content and assessment are subject to change as policies, procedures, local pathways and career opportunities evolve with the changing profession and dynamics of practice.
Practice based learning will be supported by placements in the Welsh Ambulance Service on an emergency ambulance and/ or a rapid response vehicle.
-
SHE320T
Transition into Professional Practice
This module aims to support learners as they prepare to make the transition from learner to registered paramedic. The module will aim to equip learners to navigate a changing professional landscape and negotiate the shift in professional boundaries. The module will serve as a platform for generating critical insights around organisational structures and introduce the leadership principles that relate to quality improvement processes and change management. The module will prepare learners for employment within a dynamic and challenging context and will be delivered in partnership with the Welsh Ambulance Service NHS Trust (WAST) as a key stakeholder.
The module will consolidate learning around professionalism, frameworks for professional practice and provide insight around career development. As the module works closely with Ambulance Trusts, the content and assessment are subject to change as policies, procedures, local pathways and career opportunities evolve with the changing profession and dynamics of practice.
Practice based learning will be supported by placements in the Welsh Ambulance Service on an emergency ambulance and/ or a rapid response vehicle.
-
SHE320TC
Pontio i ymarfer proffesiynol
Nod y modiwl hwn yw cynorthwyo'r dysgwyr wrth iddynt baratoi i ymaddasu o fod yn barafeddyg dan hyfforddiant i fod yn barafeddyg cofrestredig. Nod y modiwl fydd galluogi'r dysgwyr i ymdopi â maes proffesiynol a ffiniau proffesiynol sy'n newid. Bydd y modiwl yn fodd i feithrin dealltwriaeth feirniadol o strwythurau sefydliadol ac yn cyflwyno'r egwyddorion arweinyddiaeth sy'n ymwneud â phrosesau gwella ansawdd a rheoli newid. Bydd y modiwl yn paratoi'r dysgwyr i gael eu cyflogi mewn cyd-destun deinamig a heriol a chaiff ei gyflwyno mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a fydd yn rhanddeiliad allweddol.
Bydd y modiwl yn atgyfnerthu'r hyn a ddysgwyd am fod yn broffesiynol a fframweithiau ymarfer proffesiynol, ac yn meithrin dealltwriaeth o ddatblygu gyrfa. Gan fod y modiwl yn gweithio'n agos gydag ymddiriedolaethau ambiwlans, gall y cynnwys a'r dulliau asesu newid wrth i bolisïau, gweithdrefnau, llwybrau lleol a chyfleoedd gyrfa ddatblygu ochr yn ochr â phroffesiwn sy'n newid a deinameg ymarfer.
Caiff dysgu ar sail ymarfer ei ategu gan leoliadau gwaith yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru mewn ambiwlans argyfwng a/neu gerbyd ymateb cyflym.
-
SHE321
Educating and Learning in Practice
This module aims to provide learners with foundational knowledge that will support them as they prepare to undertake the role of practice educators, following completion of the programme and into their journey as newly qualified paramedics. This module will facilitate learners to critically examine various learning theories and teaching styles as well as the key enablers and inhibitors of providing constructive feedback.
-
SHE321C
Dysgu ac Addysgu Mewn Ymarfer
Nod y modiwl hwn yw rhoi gwybodaeth sylfaenol i ddysgwyr a fydd yn eu cefnogi wrth iddynt baratoi i ymgymryd â rôl addysgwyr ymarfer, ar ôl cwblhau'r rhaglen ac ar eu taith fel parafeddygon newydd gymhwyso. Bydd y modiwl hwn yn hwyluso dysgwyr i archwilio gwahanol ddamcaniaethau dysgu ac arddulliau addysgu yn feirniadol yn ogystal â'r galluogwyr a'r rhwystrau allweddol o ran darparu adborth adeiladol.
-
SHE321T
Educating and Learning in Practice
This module aims to provide learners with foundational knowledge that will support them as they prepare to undertake the role of practice educators, following completion of the programme and into their journey as newly qualified paramedics. This module will facilitate learners to critically examine various learning theories and teaching styles as well as the key enablers and inhibitors of providing constructive feedback.
-
SHE321TC
Dysgu ac Addysgu Mewn Ymarfer
Nod y modiwl hwn yw rhoi gwybodaeth sylfaenol i ddysgwyr a fydd yn eu cefnogi wrth iddynt baratoi i ymgymryd â rôl addysgwyr ymarfer, ar ôl cwblhau'r rhaglen ac ar eu taith fel parafeddygon newydd gymhwyso. Bydd y modiwl hwn yn hwyluso dysgwyr i archwilio gwahanol ddamcaniaethau dysgu ac arddulliau addysgu yn feirniadol yn ogystal â'r galluogwyr a'r rhwystrau allweddol o ran darparu adborth adeiladol.