Dr Sofya Lyakhova

Dr Sofya Lyakhova

Athro Cyswllt, Mathematics

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602793

Cyfeiriad ebost

315
Trydydd Llawr
Y Ffowndri Gyfrifiadol
Campws y Bae

Trosolwg

Cefais fy addysg gynnar yn Rwsia (BSc mewn Mathemateg, 1996 ac MSc mewn Mathemateg gyda SAC, 1998). Yn 2006 cefais PhD mewn mathemateg bur ym Mhrifysgol Bryste. Ar ôl hynny, gweithiais i nifer o gwmnïau technoleg feddygol. Yn 2009 cofrestrais ar gyfer TAR mewn Mathemateg Uwchradd ym Mhrifysgol Fetropolitan Abertawe a dyfarnwyd SAC i mi yn 2010. Rydw i wedi bod yn Arweinydd Rhaglen ar gyfer Rhaglen Cymorth Mathemateg Bellach (FMSP) Cymru ers iddi gael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2010 (www.furthermaths.org.uk/wales).

Roedd fy niddordeb ymchwil cynnar yn gyfan gwbl ym maes Mathemateg Bur a Hafaliadau Differol Rhannol yn benodol, e.e., Anghydraddoldebau a hafaliadau eliptig aflinol o fath Hardy a Rellich sy'n codi mewn astroffiseg wrth astudio bodolaeth tyllau du. Pan benodwyd fi i rôl cyfarwyddwr rhaglen y Rhaglen Cymorth Mathemateg Bellach, dechreuodd fy ymchwil ganolbwyntio ar addysg fathemateg ac addysgeg. Mae fy ymchwil ddiweddar yn ymwneud â'r rhesymau y mae myfyrwyr yn dewis astudio mathemateg ôl-16, trosglwyddo o fathemateg ysgol i brifysgol a graddau STEM a phrofiad myfyrwyr o astudio mathemateg Safon Uwch drwy fodel dysgu cyfunol. Mae gen i ddiddordeb mewn addysgeg datrys problemau mewn mathemateg, asesu mathemateg a rhifedd TGAU.

Rwy'n Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.

Meysydd Arbenigedd

  • Addysg Fathemategol
  • Dadansoddiad Mathemategol
  • Hafaliadau Differol