Trosolwg
Mae Suzanne yn Ddirprwy Bennaeth Academaidd Meddygaeth i Raddedigion ac mae’n gyfrifol am agweddau anghlinigol ar y rhaglen Meddygaeth i Raddedigion. Mae’n addysgu meddygaeth, iechyd a chymdeithas ac yn arwain y prosiect myfyrwyr hŷn.
Yn 2016 roedd yn Athro’r Flwyddyn BMA Cymru Abertawe ar gyfer y cwrs Meddygaeth i Raddedigion. Mae ei gwaith ymchwil yn ansoddol yn bennaf, ac mae ei diddordebau mewn tegwch a chydraddoldeb ym maes iechyd, addysg a chyflogaeth. Mae ganddi ddiddordeb mewn recriwtio a chadw staff yn y maes meddygaeth hefyd.