Trosolwg
Yr Athro Stuart Irvine yw Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Ynni Solar (CSER) yn y Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe ac mae’n gweithio yn y Ganolfan Dechnoleg OpTIC yn Llanelwy: ynghyd â’r tîm CSER. Mae'n un o'r arloeswyr ar gyfer dyddodiad lled-ddargludyddion cyfansawdd II-VI gan Ddyddodiad Anwedd Cemegol Metal-organig (MOCVD) i'w gymhwyso i gelloedd solar ffilm denau a deunyddiau ffilm denau uwch ar gyfer y diwydiant opto-electroneg. Mae'r ymchwil hon wedi arwain at gyhoeddi dros 200 o gyhoeddiadau mewn cyfnodolion a chynadleddau a 10 patent.