Dr Sara Da Silva Pires Marques Barrento

Dr Sara Da Silva Pires Marques Barrento

Darlithydd Er Anrhydedd, Science and Engineering

Cyfeiriad ebost

022
Llawr Gwaelod
Adeilad Margam
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy’n weithiwr proffesiynol llawn cymhelliant ym maes gwyddor môr gyda 9 mlynedd o brofiad. Rydw i wedi gweithio gyda gwymonau’n bennaf - môr-wiail, ac infertebratau morol - cramenogion a chregyn deuglawr. Rydw i wedi gweithio mewn prifysgolion gwahanol mewn cydweithrediad â chwmnïau o Ewrop, Seland Newydd a Chile mewn pynciau amrywiol: dyframaethu, biotechnoleg, biocemeg, a ffisioleg. 

Ar hyn o bryd rwy’n gydgysylltydd Modiwlau:
BIO 003 Sgiliau Labordy
BIO 004 Bioleg Foleciwlaidd a Biocemeg

Meysydd Arbenigedd

  • Ffisioleg Infertebratau Morol
  • Diogelwch Bwyd
  • Cadwyni Cyflenwi Cynaliadwy
  • Cynhyrchiant Morol Cynaliadwy (gwymonau ac infertebratau morol; Dyframaethu Aml-droffig Integredig)
  • Ecoleg Môr-wiail

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Rydw i wedi bod yn rhan o 5 Prosiect Ymchwil a ariannwyd gan y cynlluniau ariannu FP6, FP7 a Horizon2020 Ewropeaidd, a 4 prosiect a ariannwyd gan Gynghorau Ymchwil ym Mhortiwgal a’r DU. Rydw i wedi cydweithio ag 11 sefydliad ymchwil, 24 cwmni a 9 cymdeithas o 11 o wledydd ar hyd a lled y byd. Mae fy ngwaith ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar ddiogelwch bwyd, a’r economi las. Rydw i wedi ysgrifennu 18 o gyhoeddiadau gwyddonol.

Ar hyn o bryd, mae gennyf ddiddordeb mewn datblygiad systemau cynhyrchu cynaliadwy ar gyfer macro-algâu ac anifeiliaid morol. Mae fy niddordeb pennaf mewn dyframaethu aml-droffig integredig (IMTA). Cysyniad sylfaenol IMTA yw’r broses o ffermio sawl rhywogaeth ar lefelau troffig gwahanol, hynny yw rhywogaethau sydd â gwahanol safleoedd mewn cadwyn fwyd. Mae hyn yn golygu y gall un rhywogaeth wneud y canlynol: ’ uneaten feed and wastes, nutrients and by-products to be recaptured and converted into fertilizer, feed and energy for the other crops’ (Chopin, 2012). Fel enghraifft, gallwn gyfuno triniad rhywogaethau sy’n cael eu bwydo (pysgod asgellog neu ferdys) gyda rhywogaethau echdynnol anorganig (gwymon neu blanhigion dyfrol) a rhywogaethau echdynnol organig (wystrys, cregyn gleision ac infertebratau eraill). Gallwch ddysgu mwy am IMTA ar fy ngwers TedEd yma (http://ed.ted.com/on/H7rUYhKF)