Trosolwg
Ar ôl cwblhau gradd gymhwyso yn y Gyfraith, dechreuodd Scott yrfa ym maes rheoli masnachol wrth hefyd gwblhau astudiaethau ôl-raddedig yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Caerdydd lle arbenigodd mewn cyfraith fasnachol. Yn ddiweddarach, cymhwysodd fel cyfreithiwr ar ôl cwblhau'r Cwrs Ymarfer y Gyfraith ym Mhrifysgol BPP.
Yn ystod ei yrfa rheoli, bu'n rhan o nifer o brosiectau a mentrau mawr a arweiniodd ato wahoddiadau i gyflwyno darlithoedd gwadd i fyfyrwyr prifysgol. Taniodd hyn ei ddiddordeb mewn addysgu.
Dychwelodd Scott i'r brifysgol fel myfyriwr aeddfed i gwblhau cwrs TAR ac, yn hwyrach, ddyfarnwyd Statws Athro Cymwysedig iddo ar ôl iddo gwblhau lleoliadau gwaith yn addysgu'r gyfraith a busnes. Ar ôl y cwrs TAR, cwblhaodd radd MA mewn Datblygiad Proffesiynol, Addysg a Hyfforddiant.
Yn 2014, fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn yr Ysgol Reolaeth. Mae Scott wedi addysgu bron pob maes pwnc adrannol gan gynnwys: marchnata; strategaeth; menter ac arloesi; a phobl a sefydliadau.
Y tu allan i'r brifysgol, mae Scott yn gweithio fel cyfreithiwr ymgynghorol a'i brif ffocws yw cyfraith fasnachol ac ymgyfreithio. Mae Scott hefyd yn ymddiriedolwr ac yn is-gadeirydd elusen eiriolaeth genedlaethol.
Rhwng 2014 a 2016, bu Scott yn ymgynghorydd yn Senedd Ewrop a rhwng 2016 a 2018 bu'n uwch-ymgynghorydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Scott'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch; yn aelod o Gymdeithas Athrawon y Gyfraith; ac yn aelod o Gymdeithas Ysgolheigion y Gyfraith.
Yn flaenorol, bu Scott yn adolygwr cymheiriaid ar gyfer y Journal of International & Interdisciplinary Business Research a'r llyfr testun Effective Management.