Trosolwg
Mae Dr Sze Chim Lee (Lewis) yn uwch-wyddonydd data ymchwil yn yr Ysgol Feddygaeth.
Enillodd Lewis radd gyntaf mewn Peirianneg (BEng) cyn ennill MSc mewn Seicoleg. Yna, dyfarnwyd PhD Bioleg iddo. Cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe, gweithiodd mewn rolau ymgynghori ar ymchwil ym maes diogelwch cyffuriau ac roedd yn ymchwilydd ôl-ddoethurol yng Ngwyddor Clyw.
Yma ym Mhrifysgol Abertawe, mae ymchwil Lewis yn defnyddio data ac arolygon gweinyddol yn bennaf i astudio amrywiaeth o amgylchiadau seicogymdeithasol ac amgylcheddol a allai effeithio ar iechyd meddwl.