Trosolwg
Mae gan Sergio PhD mewn Peirianneg Amgylcheddol o Brifysgol Osaka yn Japan, a thros ddau ddegawd o brofiad gwaith rhyngwladol yn y byd academaidd a byd diwydiant yng nghyfandiroedd America, Asia, ac Ewrop.
Mae addysg ffurfiol ar draws meysydd peirianneg a'r gwyddorau cymdeithasol, morol a naturiol wedi dylanwadu ar ei ddiddordeb mewn cynnal ymchwil drawsddisgyblaethol, addysgu a gwaith ymgynghori mewn materion cyfoes cymhleth.
Mae ei feysydd arbenigedd yn cynnwys damcaniaeth arloesi, ecoddylunio, rhagofal, rheoli strategol, datblygu technoleg, newidiadau cynaliadwyedd a'r economi gylchol.
Mae diddordebau ymchwil Sergio yn canolbwyntio ar archwilio trawsddisgyblaethol y gydberthynas rhwng pobl, yr amgylchedd a thechnoleg fel ffynhonnell rhwystrau a chyfleoedd i newid systemau technegol-gymdeithasol presennol at fod yn gynaliadwy. O'r safbwynt hwn, pwysleisir rôl diwylliant — yn nodwedd ddynol sy'n esblygu — yn agwedd allweddol yn natblygiad naratifau newydd i ysgogi newid ymddygiad mewn unigolion a sefydliadau.