Trosolwg
Mae Dr Robert Bowen yn Ddarlithydd mewn Entrepreneuriaeth Ryngwladol yn yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Robert wedi gweithio ym maes addysg uwch ers 2005, gan ddechrau fel Cymrawd Addysgu ym Mhrifysgol Nantes yn Ffrainc am chwe blynedd. Ymunodd â'r Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Medi 2017, ar ôl bod yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn hynny, lle datblygodd a rheoli'r rhaglen Gymraeg yn yr Ysgol Reolaeth a Busnes. Hefyd, mae Robert wedi gweithio ym maes Marchnata ar gyfer rhanbarth rygbi'r Scarlets, lle datblygodd y cynnwys ar gyfer yr amgueddfa dreftadaeth ym Mharc y Scarlets. Ar hyn o bryd, mae'n Ddarlithydd Gwadd yn Ysgol Fusnes Audencia yn Nantes, Ffrainc.