Trosolwg
Mae Dr Zallot yn ymddiddori mewn darganfod a nodweddu genynnau, ensymau, a chludwyr heb swyddogaeth hysbys o ficrobau, gan ganolbwyntio'n benodol ar wella iechyd.
Mae ei ymchwil ar y rhyngwyneb rhwng biowybodeg, genomeg weithredol, biocemeg a microbioleg.
Hyd yn oed os yw'n bwerus, nid yw'r ymagwedd genomeg gymharol yn hysbys iawn, ac felly ni chaiff ei defnyddio'n ddigonol. Er mwyn gwneud iawn am hynny, mae Dr Zallot yn ymrwymedig i hyfforddi, hyrwyddo yn ogystal â datblygu'r ymagwedd ymhellach, gan chwilio am ffyrdd newydd o fanteisio ar y data sydd ar gael i'r cyhoedd er mwyn llunio damcaniaethau y gellir eu profi yn y labordy.
Enillodd Rémi Zallot ei ddoethuriaeth o Université de Bordeaux (Ffrainc), a bu'n gweithio ym Mhrifysgol Florida (Unol Daleithiau America) a Phrifysgol Illinois yn Urbana-Champaign (Unol Daleithiau America) cyn ymuno â Phrifysgol Abertawe.