A photo of Singleton Campus including Singleton park and a view of the sea

Mr Pete Lloyd

Uwch-ddarlithydd, Education and Childhood Studies

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
250
Ail lawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton

Trosolwg

Mae gen i dros 30 o flynyddoedd o brofiad yn y sector addysg. Yn ystod y cyfnod hwn rwyf wedi addysgu ffiseg yn bennaf, ond hefyd wedi addysgu electroneg, peirianneg a gwyddoniaeth mewn nifer o ysgolion cyfrwng Cymraeg a Saesneg. Roeddwn yn bennaeth yr adran wyddoniaeth mewn ysgol uwchradd 11-18 a hefyd wedi arwain ar nifer o brosiectau traws cwricwlaidd ac ysgol gyfan.

Cyn gweithio fel darlithiwr TAR mewn hyfforddiant cychwynnol athrawon yr oeddwn yn gweithio fel cynghorwr gwyddoniaeth ar gyfer y consortiwm ERW. Yr oeddwn yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth i athrawon gwyddoniaeth ar lefel sirol ac ar gyfer ysgolion unigol. Ar hyn o bryd yr wyf, hefyd, yn gweithio fel awdur ac arholwr ar gyfer papurau gwyddoniaeth i'r Cyd Bwyllgor addysg Cymru (CBAC).

Meysydd Arbenigedd

  • Addysg wyddoniaeth ôl-raddedig.
  • Dysgu gwyddoniaeth ymarferol
  • Monitro a thracio cynydd
  • Dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Pob agwedd o addysg wyddonol, yn enwedig Ffiseg.