A photo of Singleton Campus including Singleton park and a view of the sea

Dr Neil Lucas

Rheolwr yr Ysgol Addysg, Humanities and Social Sciences

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 604835

Cyfeiriad ebost

246
Ail lawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Neil yw Cyfarwyddwr Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe. Yn y rôl hon, mae'n gweithio gydag ysgolion ar draws de Cymru ac mae'n gyfrifol am lywodraethu’r bartneriaeth a datblygu a chyflwyno'r rhaglen Addysg Gychwynnol i Athrawon. Yn flaenorol, roedd Neil yn Gyfarwyddwr ac yn Bennaeth Coleg Rhyngwladol Cymru Abertawe gan arwain ar bob agwedd ar daith y myfyriwr o recriwtio, derbyn a chofrestru i brofiad astudio'r myfyrwyr a'r profiad academaidd. Am dros 25 o flynyddoedd, mae wedi gweithio mewn rolau amrywiol mewn addysg uwch, fel Uwch-ddarlithydd i ddechrau mewn Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol. Mae wedi cyhoeddi amrywiaeth o erthyglau ymchwil ac wedi bod yn gyd-awdur llyfr ar gymhwyso meddalwedd geoystadegau.

Yn ogystal â hyn, mae Neil wedi bod yn adolygydd ar gyfer Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch gan ddarparu trosolwg addysgol ar gyfer ystod o sefydliadau'r sector cyhoeddus a phreifat.

Meysydd Arbenigedd

  • Arweinyddiaeth Addysg
  • Llywodraethu Addysg
  • Sicrhau Ansawdd Addysg
  • Geoystadegau
  • Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Dulliau Ymchwil Meintiol

Llywodraethu Addysg

Cyflogadwyedd

Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol

Ymchwil