Yr Athro Neils Jacob

Athro Emeritws (Gwyddoniaeth), Science and Engineering

Cyfeiriad ebost

314
Trydydd Llawr
Y Ffowndri Gyfrifiadol
Campws y Bae

Trosolwg

Ces i fy ngeni yn Berlin chwe blynedd cyn i Wal Berlin gael ei hadeiladu a bues i'n byw yno (Gorllewin Berlin) drwy gydol fy 28 mlynedd cyntaf, gan dderbyn Allgemeine Hochschulreife, h.y. gorffen yr ysgol uwchradd, a pharhau i astudio Mathemateg, Ffiseg a Chemeg yn Freie Universität Berlin (FUB), lle dyfarnwyd Vordiplom i mi mewn Ffiseg, Diplom mewn Mathemateg, ac yn y diwedd, ar ddechrau 1982, y doctor rerum naturalium (Dr. rer.nat), h.y. y PhD. Yn ystod fy nghyfnod yn FUB, ces i fy nghyflogi o 1976 fel Tiwtor ac yn ddiweddarach fel wissenschaftlicher Assistent, h.y. darlithydd iau, yn yr Adran Fathemateg. Ym 1983, symudais i i Brifysgol y Lluoedd Arfog Ffederal ym Munich lle bues i'n gweithio fel wissenschafticher Oberassistent yn yr Adran Gyfrifiadureg am ddwy flynedd. Ym 1985 dechreuais i weithio yn Universität Erlangen – Nürnberg, fel akademischer Rat, ac ar ôl cymhwyso (Dr. rer. nat. habil.) ym 1989 fel akademischer Ober-rat, ac yn y diwedd fel apl, sef Athro er Anrhydedd yn yr Adran Fathemateg. Yn ystod y pum mlynedd olaf yn yr Almaen, gan fyw yn Erlangen o hyd, bues i'n gweithio fel eilydd mewn swyddi athrawol yn Technische Universität Munich, Universität Bonn, Universität Tübingen, a Phrifysgol y Lluoedd Arfog Ffederal eto ym Munich.