Trosolwg
DSc Eng, PhD, MSc, BEng, Euro Ing, CEng, FIChemE, FLSW
Mae diddordebau ymchwil yn ymwneud yn fras ag adnabod datrysiadau arloesol a chost-effeithiol ar gyfer problemau prosesu peirianneg yn y byd go iawn ym maes trin dŵr, technoleg pilenni a rhoi ar waith beirianneg microsgopeg grym atomig.
Wedi datblygu portffolio ymchwil hynod lwyddiannus wrth geisio cyflawni gwaith ymchwil o ansawdd uchel sy’n chwilfrydig ac yn arwyddocaol o ran strategaeth. Wedi sefydlu ystod eang iawn o brosiectau ymchwil rhyngwladol ar y cyd.
Wedi fy nghydnabod yn rhyngwladol fel un o'r gorau yn y byd wrth ddatblygu a rhoi ar waith gapasiti mesur grym AFM wrth astudio arwynebau pilen.
Gwaith ymchwil wedi cynhyrchu darganfyddiadau arloesol amrywiol, gan gynnwys:
Datblygu pilenni newydd
Y chwiliedydd AFM lleiaf a adroddwyd arno mewn llenyddiaeth
Y dechneg chwiliedydd coloid â haenen AFM gyntaf
Y dechneg chwiliedydd cell AFM gyntaf
Y mesuriadau uniongyrchol cyntaf ar gyfer rhyngweithio celloedd byw unigol ac arwynebau
Defnyddio microsgop grym atomig cyntaf mewn astudiaethau ceudodiad ar raddfa meso
Mae gan bob un o'r technegau/technolegau hyn gymwysiadau eang mewn optimeiddio prosesau a datblygu prosesau newydd.
Yn weithredol iawn wrth ganfod cymwysiadau amlddisgyblaethol, cydweithredol ar gyfer microsgopeg grym atomig a pheirianneg brosesu. Er enghraifft, mae prosiectau cyfredol yn amrywio o reoleg daliad coloid ac archledaenu gyda rhyngweithio graddfa nano i saernïo deunyddiau amldro yn seiliedig ar ronynnau mwynau. Mae'r dull hwn wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ddenu cyllid sylweddol o EPSRC a diddordeb y diwydiant.