Dr Mariolino Carta

Dr Mariolino Carta

Uwch-ddarlithydd, Chemistry
432
Trydydd Llawr
Adeilad Grove
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Graddiais mewn Cemeg Organig yn yr Eidal yn 2004 cyn symud i Brifysgol Caerdydd i gael PhD mewn Cemeg Defnyddiau Organig yn 2008, gyda phrosiect yn seiliedig ar synthesis a phennu nodweddion polymerau newydd sydd â micromandylledd cynhenid (Polymers of Intrinsic Microporosity -PIMs) o dan oruchwyliaeth yr Athro Neil B. McKeown.

Ar ôl y PhD, gweithiais fel Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Caerdydd (2008-2013) a Phrifysgol Caeredin (2014-2017). Ym mis Hydref 2017, cefais fy mhenodi’n Ddarlithydd Cemeg ym Mhrifysgol Abertawe lle cefais fy nyrchafu’n Uwch-ddarlithydd ym mis Mawrth 2020.

Yn 2017, llwyddais i gwblhau’r Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Ymarfer Academaidd (PgCAP) ym Mhrifysgol Caeredin ac oherwydd hynny, rwyf bellach yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (HEA).

Rwyf hefyd yn aelod o'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol (MRSC) ac yn Llysgennad STEM.

Meysydd Arbenigedd

  • Cemeg Organig
  • Cemeg Defnyddiau
  • Polymerau sydd â Micromandylledd Cynhenid (PIMs)
  • Gwahanu Nwy
  • Pilenni Matrics Cymysg (MMMs)
  • Catalysis Heterogenaidd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Rwy’n addysgu unrhyw beth sy’n ymwneud â Chemeg Organig ar gyfer blynyddoedd 1, 2 a 3 ac yn canolbwyntio’n gryf ar Gemeg Defnyddiau hefyd (Polymerau).

Ymchwil