Dr Marcella Bassetto

Dr Marcella Bassetto

Uwch-ddarlithydd Er Anrhydedd, Science and Engineering
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Graddiais mewn Cemeg a Thechnoleg Feddyginiaethol ym Mhrifysgol Padova, yr Eidal, yn 2010, a chefais fy PhD mewn Cemeg Feddygol o Brifysgol Caerdydd yn 2013, gan weithio ar gynllunio drwy gymorth cyfrifiadur a synthesis cyfryngau gwrthfeirysol posib newydd yn erbyn HCV. Ar ôl fy astudiaethau PhD, gweithiais fel Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Caerdydd am flwyddyn, gan ddatblygu cyfryngau gwrthganser fflworinedig newydd i drin canser y prostad. Ar ôl hynny ymunais â chwmni fferyllol yn Rhufain am gyfnod byr i weithio fel cemegydd synthetig yn datblygu cyffuriau newydd. Yna dychwelais i Brifysgol Caerdydd i ailafael yn fy ngwaith ymchwil academaidd ar ddylunio gyda chymorth cyfrifiadur a synthesis cyffuriau posib newydd, ac yn 2016 dyfarnwyd Cymrodoriaeth Ymchwil Unigol Sêr Cymru II i mi, lle bues i’n canolbwyntio ar ddylunio in silico a synthesis cyfryngau gwrthfeirysol newydd. Ym mis Medi 2019, cefais fy mhenodi’n Ddarlithydd Cemeg ym Mhrifysgol Abertawe. Rwy’n Llysgennad STEM ers 2016.

Meysydd Arbenigedd

  • Modelu moleciwlaidd
  • Cynllunio cyffuriau drwy gymorth cyfrifiadur
  • Cemeg meddyginiaethol
  • Cemeg organig synthetig