Dr Matthew Burton

Dr Matthew Burton

Aelod Cyswllt, Materials Science and Engineering

Cyfeiriad ebost

Trosolwg

Ymunais â SPECIFIC fel cymrawd trosglwyddo technoleg yn 2017 i arwain yr ymchwil mewn thermodrydan. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu deunyddiau a gellir gweld peth o'm gwaith diweddaraf yn Advanced Materials, Advanced Energy Materials and the Journal of Materials Chemistry A.. Mae uchafbwyntiau fy ymchwil thermodrydan yn cynnwys y ffactor effeithlonrwydd uchaf erioed (ZT) ar gyfer deunydd thermodrydan printiedig, datblygu generaduron thermodrydan tun selenid (SnSe) a datblygu deunyddiau thermodrydan effeithlon Earth Abundang a deunyddiau thermodrydan printiedig nad ydynt yn wenwynig. Rwy'n cyflwyno fy ngwaith mewn cynadleddau rhyngwladol yn rheolaidd ac roeddwn yn siaradwr gwadd ac yn gadeirydd sesiwn yng Nghynhadledd Ryngwladol 2019 ar Thermodrydan.

Un o'm diddordebau ymchwil eraill yw microsgopeg. Rwyf wedi fy hyfforddi'n llawn ar FEG-SEM a TEM/STEM cydraniad uchel ac rwyf bob amser yn agored i gydweithio. Gellir gweld cyhoeddiad diweddar gennyf yn y maes hwn yn ACS Nano.

Cyn ymuno â SPECIFIC, cwblheais fy PhD ar "Soft-Templating of Nanostructured Materials for Thermoelectric Power Harvesting and Catalysis" ym Mhrifysgol Southampton. Gellir gweld fy ngwaith PhD ar draws 9 cyhoeddiad mewn 6 cyfnodolyn gwahanol. Dyfarnwyd MChem i mi o Brifysgol Southampton yn 2013, gyda fy ymchwil meistr yn cael ei gynnal yn Merck ar grisialau hylif thermotropig.

Meysydd Arbenigedd

  • Thermodrydan
  • Microsgopeg
  • Dyddodiad electro
  • Gwasgariad pelydr-X Ongl Bach (SAXS)

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Darlithydd CH006 - Fundamental Mathematics for Chemistry
Darlithydd EGSM12 – Postgraduate Module on Analytical and Instrumental Techniques

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau