Trosolwg
Mae Dr Mark Coleman yn Uwch Ddarlithydd mewn Meteleg yn y Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe. Mae Mark yn addysgu Gwyddoniaeth Deunyddiau a Pheirianneg i'r rhan fwyaf o'r myfyrwyr peirianneg blwyddyn gyntaf ac mae'n chwarae rhan weithredol mewn ymgysylltu â'r cyhoedd, gweithgareddau estyn allan a recriwtio. Dr Coleman yw'r tiwtor Derbyniadau Peirianneg Deunyddiau a chydlynydd ymgysylltu â'r cyhoedd ac estyn allan yn ogystal â chydlynydd blwyddyn gyntaf Deunyddiau.
Fel gwyddonydd ac ymchwilydd deunyddiau, mae Dr Coleman yn rhedeg grŵp ymchwil bach o fyfyrwyr Meistr, PhD ac EngD sy'n defnyddio offer dadansoddi cydraniad uchel, megis microsgopau electron sganio (SEM), Microsgopau Electron Trawsyriant (TEM) a Micro CT Pelydr-X i nodweddiadu deunyddiau ar raddfa Ficro ac weithiau Nano. Mae gan Mark gefndir o gydweithio â diwydiant i ddadansoddi mecanweithiau methiant cydrannau ac optimeiddio llwybrau prosesu deunyddiau i wella nodweddion deunyddiau. Mae gan Mark ddiddordeb arbennig yn y syniad o deilwra meicrostrwythurau deunyddiau er mwyn optimeiddio nodweddion mecanyddol terfynol cydran.