Professor Keith Lloyd

Yr Athro Keith Lloyd

Deon Gweithredol PVC - Cyfadran Iechyd a Gwyddorau Bywyd, Medicine Health and Life Science

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
303b
Trydydd Llawr
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 2
Campws Singleton

Trosolwg

Yr Athro Keith Lloyd yw Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe ac mae’n academydd clinigol sy'n arbenigo mewn seiciatreg.

Cwblhaodd ei hyfforddiant meddygaeth cyn arbenigo mewn seiciatreg ac mae'n seiciatrydd cymunedol yn Abertawe.

Mae rhoi’r un pwyslais ar iechyd meddwl ag ar iechyd corfforol yn ganolog i bopeth rwyf yn ei wneud.

Mae Keith yn ymrwymedig i gefnogi blaengaredd mewn iechyd a gofal cymdeithasol a blaengaredd mewn gwasanaethau. Mae'n brif ymchwilydd ar y rhaglen Cyflymu, cydweithrediad arloesol rhwng prifysgolion Cymru a Hwb Gwyddor Bywyd Cymru.

Mae'n helpu i droi syniadau arloesol yn dechnoleg, cynhyrchion a gwasanaethau newydd ar gyfer y sector iechyd a gofal, yn gyflym.

Mae'r Athro Lloyd yn Gadeirydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru a Chymdeithas Seiciatryddion Cymru;

Mae'n aelod o'r panel cyfeirio proffesiynol ar gyfer yr elusen iechyd meddwl, HAFAL.

Mae'n Gadeirydd Bwrdd Cwmni Theatr Volcano ac yn ymddiriedolwr Heartbeat Trust UK.

Cyn cael ei benodi i'w swydd bresennol, bu'n Bennaeth NISCHR (Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru bellach) - corff Llywodraeth Cymru â chyfrifoldeb am bolisi, strategaeth ac ariannu ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae diddordebau ymchwil Keith ym meysydd iechyd meddwl cyhoeddus, hunanladdiad a defnyddio data iechyd a gesglir yn rheolaidd, gan gynnwys rheoli anhwylderau meddyliol mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol, yn enwedig hunanladdiad a hunan-niwed, a safbwyntiau cleifion.

Mae'n brif ymchwilydd  y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl

Meysydd Arbenigedd

  • Iechyd Meddwl Cyhoeddus
  • Epidemioleg Seiciatrig
  • Hunanladdiad a Hunan-niwed
  • Gwybodeg Iechyd