Dr Jonathan Mullins

Dr Jonathan Mullins

Athro Cyswllt, Biomedical Sciences

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Rhugl
Swyddfa Academaidd - 135
Llawr Cyntaf
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 1
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Jonathan yn arbenigwr ym maes cyfrifo strwythur, gweithrediad a rhyngweithiadau proteinau (derbynyddion, cludyddion, ensymau etc.) ar raddfa genom/proteom cyfan, a chysylltu hyn ag iechyd ac afiechyd  a darganfod cyffuriau. Mae'n arwain grŵp ymchwil a chwmni deillio yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, gan weithio ar ymchwil academaidd ac ymchwil a datblygu masnachol arloesol ym maes biowybodeg strwythurol. Nod y prosiectau hyn yw datrys amrywiaeth eang o broblemau biolegol, gan gynnwys prosiect cyfredol a ariennir gan Innovate UK â'r  nod o ddatblygu platfform sgrinio cyffuriau gwrthfeirysol ar gyfer Covid-19. Mae'r ymchwil yn achub y blaen ar y feirws drwy fodelu amrywiolion a newidiadau strwythurol damcaniaethol, gan dargedu straeniau newydd cyn iddynt ddigwydd.

Meysydd Arbenigedd

  • • Biowybodeg Strwythurol
  • • Deallusrwydd Artiffisia
  • • Uwchgyfrifiadura
  • • Darganfod Cyffuriau
  • • Datblygu Platfformau
  • • Ymchwil Data Iechyd
  • • Covid-19

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Jonathan yn darlithio ar y cwrs Meddygaeth i Raddedigion (biocemeg, metaboledd, geneteg, ffisioleg a phatholeg foleciwlaidd - yn enwedig mewn perthynas â'r coluddyn, ac mae'n arwain y thema Maeth). Mae hefyd yn addysgu ar y rhaglen Cydymaith Meddygol (endocrinoleg), y cwrs BSc mewn Geneteg/Biocemeg (biowybodeg) a'r BSc mewn Gwyddorau Meddygol Cymhwysol (niwroendocrinoleg) ac mae'n goruchwylio prosiectau’r drydedd flwyddyn ar gyfer y cyrsiau hynny. 

Ymchwil Cydweithrediadau