Trosolwg
Mae'r Athro Neil McMurray, ynghyd â'r Athro Dave Worsley, yn arweinydd grŵp y Grŵp Cyrydiad ac Araenu o fewn y Ganolfan Ymchwil Deunyddiau (MRC), y Coleg Peirianneg.
Abertawe yw un o brif ganolfannau'r DU ar gyfer addysgu ac ymchwil deunyddiau. Mae’r ymchwil deunyddiau sy’n arwain y ffordd yn rhyngwladol yn Abertawe yn cael ei ariannu gan sefydliadau o fri fel Rolls Royce, Airbus, Asiantaeth Ofod Ewrop, a Tata Steel.
Mae'r Ganolfan Ymchwil Deunyddiau (MRC) wedi arloesi graddau ôl-raddedig sydd wedi'u teilwra i anghenion diwydiant ac sy'n cynhyrchu ymchwil o'r ansawdd gorau. Tystiolaeth o’r dull llwyddiannus hwn yw’r portffolio grant ymchwil gwerth dros £40 miliwn.
Mae'r Ganolfan Ymchwil Deunyddiau yn ymgorffori'r prosiectau ymchwil canlynol a gydnabyddir yn rhyngwladol:
Y Sefydliad Deunyddiau Strwythurol
Cyrydiad ac Araenu Gweithredol
Peirianneg Ffiniau Gronynnau
Yr Amgylchedd a Deunyddiau Cynaliadwy
Canolfan Nodweddiadu Deunyddiau Uwch (MACH1)
Technoleg Dur