Trosolwg
Ymunodd Graeme â'r Brifysgol yn 2019 ar ôl gweithio yn y diwydiant adeiladu am dros 30 mlynedd. Mae'n beiriannydd Sifil a Strwythurol Siartredig, ac yn Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol. Mae'n adolygydd gyda Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE) lle mae'n asesu ymgeiswyr i ennill cymwysterau proffesiynol.
Mae Graeme hefyd ar y Panel Datblygiad Proffesiynol Cychwynnol lle mae'n adolygu'r system hyfforddi ar gyfer graddedigion ar lwybr at gymhwyster proffesiynol. Mae'n cynrychioli ICE a Phrifysgol Abertawe ar wahanol weithgorau gyda'r Cyngor Peirianneg a bwrdd arholi JBM.
Yn ystod ei yrfa ym maes adeiladu, bu Graeme yn gweithio i ymgynghorwyr, cleientiaid a chontractwyr yn bennaf ym mhen diwydiannol trwm peirianneg sifil / strwythurol. Mae wedi gweithio mewn nifer o sectorau, gan gynnwys petrocemegol, ynni (gan gynnwys niwclear), awyrofod a gofal iechyd.