Trosolwg
Mae Laurie yn ddarlithydd yn y grŵp Gweithrediadau Strategol ac yn aelod o’r Ganolfan Ymchwil Marchnadoedd Newydd (EMaRC) a’r Labordy Arloesi (I-Lab) yn yr Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe.
Mae ganddo 15+ mlynedd o brofiad rheoli mewn amrywiaeth o rolau, gan weithio mewn diwydiant ar nifer o brosiectau ym maes cyllid, gweithgynhyrchu, gweithrediadau a thrawsnewid busnes o fewn sefydliadau cyhoeddus, preifat ac amddiffyn, cyn cwblhau ei PhD.
Cwblhaodd Laurie ei PhD mewn Systemau Gwybodaeth yn yr Ysgol Reolaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ganddo hefyd MSc mewn Cyfrifiadureg a BEng mewn Peirianneg Systemau Cyfrifiadurol. Mae wedi dysgu amrywiaeth o bynciau sy’n canolbwyntio ar dechnoleg ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig hyd at MBA.
Mae Laurie wedi cyhoeddi ystod o gyhoeddiadau ymchwil o fewn cyfnodolion academaidd blaenllaw mewn pynciau fel: Deallusrwydd Artiffisial, Diwydiant 4.0, methiant prosiect systemau gwybodaeth, Rheoli’r Gadwyn Gyflenwi a Marchnata Digidol, sydd wedi’u dyfynnu’n eang mewn llenyddiaeth academaidd. Mae’n adolygydd i’r: International Journal of Information Management; Annals of Operations Research, Government International Quarterly a’r Government Information Quarterly.