Ym mis Medi 2017, ymunais â staff addysgu Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, ar ôl saith mlynedd fel myfyriwr yn yr Adran. Cwblheais radd BA yn y Gymraeg yn 2014 ac yna Ph.D. yn y Gymraeg yn 2019. Roedd fy Ph.D. yn archwilio sut orau y gellir cefnogi cyflwyno’r Gymraeg fel ail iaith yn llwyddiannus yng nghyd-destun ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg. Fel darlithydd yn y Gymraeg, rwyf yn gyfrifol yn bennaf am addysgu ar nifer o fodiwlau iaith ar gyfer myfyrwyr ail iaith, ond rwyf hefyd yn cydlynu a chyfrannu at fodiwlau eraill ym maes iaith, addysg, ieithyddiaeth gymhwysol a chynllunio ieithyddol. Ymhlith fy niddordebau ymchwil y mae: Cymraeg Ail Iaith; caffael ail iaith; polisi iaith ac addysg yng Nghymru; profi ac asesu ail iaith; dwyieithrwydd ac addysg ddwyieithog a chynllunio ieithyddol.