Ymunais ag Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe ym mis Hydref 2016. Cwblheais radd BA yn Ffrangeg ac Almaeneg ac MA mewn cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a’r Almaen ym Mhrifysgol Queen Mary, Llundain. Rwyf wedi cwblhau doethuriaeth yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ar ddysgu Cymraeg i fewnfudwyr; llunio llwybr at ddinasyddiaeth gynhwysol Gymreig. Treuliais gyfnod ymchwil yn Université de Montreal yn 2014 yn edrych ar integreiddio mewnfudwyr drwy’r Ffrangeg yn Quebec. Mae gennyf brofiad o ddysgu Cymraeg i oedolion, yn enwedig yn datblygu cyfleoedd dysgu Cymraeg i fewnfudwyr. Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys Cymraeg fel ail iaith, mewnfudo, amlddiwylliannedd a dinasyddiaeth. Ar hyn o bryd, rwy’n cydweithio ar brosiect dan nawdd y Comisiwn Ewropeaidd yn datblygu adnoddau dysgu iaith i fewnfudwyr mewn cymunedau gwaith dwyieithog.

Cyhoeddiadau

  1. & Contesting sub-state integration policies: migrant new speakers as stakeholders in language regimes. Language Policy
  2. & Immigrants as new speakers in Galicia and Wales: issues of integration, belonging and legitimacy. Journal of Multilingual and Multicultural Development 39(5), 394-406.
  3. BAAL/CUP Seminar 2016: New plurilingual pathways for integration: Immigrants and language learning in the 21st century. Language Teaching 50(2), 294-296.
  4. (2016). Dysgu Cymraeg i Fewnfudwyr: Llunio Llwybr at Ddinasyddiaeth Gynhwysol Gymreig. : Cardiff University.
  5. Teaching Welsh to ESOL students: issues of intercultural citizenship. In Language issues in migration and integration: perspectives from teachers and learners. (pp. 111-122). Spring Gardens, London: British Council.

Gweld mwy...

Addysgu

  • CY-130 Defnyddio'r Iaith

    Nod y cwrs yw cyflwyno 80 awr o ddysgu dwys a fydd yn rhoi sylfaen ieithyddol gref i'r myfyrwyr. Bydd y pwyslais ar feistroli'r patrymau'r iaith lafar. Yn ogystal a datblygu'r sgiliau hyn, bydd cyfle iddynt gyflwyno gwaith ysgrifenedig wythnosol. Bydd y cwrs yn arfog'r myfyrwyr yn ieithyddol ar gyfer y radd BA yn y Gymraeg.

  • CY-132 Cadarnhau'r Seiliau

    Mae'r modiwl hwn yn cydredeg â modiwl CY-130 Cyflwyno'r Seiliau. Bydd yn canolbwyntio ar gadarnhau sgiliau ysgrifennu, gwrando a darllen y myfyrwyr ac yn eu harfogi'n ieithyddol ar gyfer y radd BA yn y Gymraeg. Yn ogystal â datblygu'r sgiliau hyn, bydd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddadansoddi gwallau mewn clinig iaith ac ymgyfarwyddo â ffurfiau a chyweiriau anffurfiol y Gymraeg ac amrywiadau tafodieithol.

  • CY-137 Cymraeg Ddoe a Heddiw

    Yn rhan gyntaf y modiwl, byddwn yn ystyried prif gyfnodau hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg o gyfnod y Frythoneg, dylanwad y Lladin ymlaen i gyfnod Cymraeg Canol. Beth oedd y prif ddylanwadau arni a sut mae wedi ymateb i'r dylanwadau hynny? Edrychwn yn benodol ar sut mae'r Gymraeg wedi benthyca geiriau o ieithoedd eraill a gwelwn fod y broses yn parhau o hyd. Yn ail ran y modiwl, byddwn yn astudio dylanwadau cymdeithasol ar yr iaith Gymraeg. Rhoddir sylw penodol i drin a dehongli data'r Cyfrifiad. Gyda'r twf mewn addysg Gymraeg, technoleg a mewnfudo, beth yw'r heriau a'r cyfleoedd i'r iaith Gymraeg heddiw? Gyda dylanwad y Saesneg ar y Gymraeg, pa fath o Gymraeg sydd yn 'safonol' erbyn heddiw?

  • CY-236 Amlddiwylliannedd a'r Gymraeg

    Bydd y modiwl yn edrych ar sut y mae syniadau am iaith, diwylliant a chenedl wedi datblygu yn ystod y canrifoedd diwethaf. Edrychir yn benodol ar dwf amrywiaeth heddiw a¿r ffyrdd o ddelio gyda hyn megis theori Amlddiwylliannedd. Edrychir ar sut y mae¿r Gymraeg yn cael ei chynnwys a¿i heithrio o drafodaethau ar amrywiaeth a pha fath o Gymru y gellir ei dychmygu yn y dyfodol.

  • CY-237 Cymraeg Ddoe a Heddiw

    Yn rhan gyntaf y modiwl, byddwn yn ystyried prif gyfnodau hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg o gyfnod y Frythoneg, dylanwad y Lladin ymlaen i gyfnod Cymraeg Canol. Beth oedd y prif ddylanwadau arni a sut mae wedi ymateb i'r dylanwadau hynny? Edrychwn yn benodol ar sut mae'r Gymraeg wedi benthyca geiriau o ieithoedd eraill a gwelwn fod y broses yn parhau o hyd. Yn ail ran y modiwl, byddwn yn astudio dylanwadau cymdeithasol ar yr iaith Gymraeg. Rhoddir sylw penodol i drin a dehongli data'r Cyfrifiad. Gyda'r twf mewn addysg Gymraeg, technoleg a mewnfudo, beth yw'r heriau a'r cyfleoedd i'r iaith Gymraeg heddiw? Gyda dylanwad y Saesneg ar y Gymraeg, pa fath o Gymraeg sydd yn 'safonol' erbyn heddiw?

Cyfrifoldebau Allanol

Grantiau a Phrosiectau Allweddol

Grwpiau Ymchwil

  • New Speakers

    Prif nod y prosiect yw rhoi sylw i’r heriau a chyfleoedd sydd i ddysgu a defnyddio iaith newydd yng nghyd-destun Ewrop amlieithog.