A photo of Singleton Campus including Singleton park and a view of the sea
Dr Ceryn Evans

Dr Ceryn Evans

Uwch-ddarlithydd, Education and Childhood Studies

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513766

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
248
Ail lawr
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy'n uwch ddarlithydd yn yr Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Abertawe. Fy mhrif ddiddordebau ymchwil yw pontio pobl ifanc o'r ysgol i addysg ôl-16 ac addysg uwch. Mae gen i ddiddordeb arbennig mewn anghydraddoldebau dosbarth cymdeithasol o ran mynediad at addysg bellach ac uwch a chyfranogi ohoni. Mae gen i ddiddordeb hefyd yn rôl a swyddogaeth prifysgolion o fewn cymdeithas, gan gynnwys eu rôl mewn cymdeithas sifil.

Mae gen i ddiddordeb mewn goruchwylio graddau PhD sy'n canolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud ag anghydraddoldebau addysgol, dosbarth cymdeithasol, ehangu cyfranogiad mewn addysg uwch a phenderfyniadau addysgol a phontio pobl ifanc.

Meysydd Arbenigedd

  • Ehangu cyfranogiad mewn addysg uwch
  • Anghydraddoldebau mewn addysg
  • Dosbarth cymdeithasol
  • Addysg a hyfforddiant ôl-16 pobl ifanc

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Ar hyn o bryd rwy'n gwneud gwaith ymchwil i archwilio penderfyniadau pobl ifanc i fynd ar drywydd llwybrau amgen i brifysgol. Ariennir yr ymchwil hon gan ddyfarniad grantiau bach yr Academi Brydeinig (EDR1002-100). Disgwylir i'r ymchwil gael ei chwblhau ym mis Mai 2021.