Miss Charlie Earle

Miss Charlie Earle

Athro Cyswllt, Healthcare Science

Cyfeiriad ebost

222
Ail lawr
Adeilad Vivian
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Fe raddiais gyda Gradd Dosbarth Cyntaf mewn Ffisioleg Glinigol o Brifysgol Abertawe gan arbenigo mewn ffisioleg anadlu a chysgu.  Ers hynny rydw i wedi cwblhau MSc Gwyddoniaeth Broffesiynol, tystysgrif ôl-raddedig mewn dysgu ac addysgu ym maes addysg uwch ac wedi fy achredu fel Gwyddonydd Clinigol.

Rydw i wedi gweithio mewn amryw o leoliadau GIG yn Lloegr ac yng Nghymru fel ffisiolegydd resbiradol a chysgu, ac mae gennyf gontract clinigol er anrhydedd yn Ysbyty Singleton.

Rydw i’n cydlynu’r gwasanaeth stopio ysmygu ‘Helpa Fi i Stopio’ yn y Brifysgol, sydd ar gael i staff, myfyrwyr a’r cyhoedd.

Yn ogystal â fy nyletswyddau darlithio, rwy’n gyfrifol am sicrhau bod myfyrwyr yn cael profiad dysgu cadarnhaol ar leoliad yn ystod eu gradd tair blynedd.  Mae hyn wedi fy annog i ddatblygu cyfleoedd dysgu cyffrous yn y DU a thramor i fyfyrwyr.

Meysydd Arbenigedd

  • Swyddogaeth yr ysgyfaint (sbirometreg, trosglwyddo nwy a chyfaint ysgyfaint statig)
  • Dadansoddi, diagnosis a thriniaeth cysgu, (astudiaethau cysgu lefel 2 a 3)
  • Stopio ysmygu
  • Dysgu hygyrch

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Thema fy ymchwil presennol yw symud gofal yn agosach i’r cartre, h.y. defnyddio rhai profion anadlu a chysgu yn y gymuned/ymysg meddygon teulu. Mae gennyf ddiddordeb gweld a fyddai hyn yn helpu i leihau’r baich ar wasanaethau ysbytai, meysydd parcio a wardiau.

Prif Wobrau