Dr Christopher Coates

Dr Christopher Coates

Aelod Cyswllt, Science and Engineering

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513296

Cyfeiriad ebost

Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Dolenni Ymchwil

Trosolwg

Mae Dr Christopher J Coates yn Athro Cyswllt mewn Imiwnoleg Gymharol ym Mhrifysgol Abertawe gan arbenigo mewn iechyd a chlefydau pysgod cregyn, pryfed a modelau tocsicoleg, a rolau rhwymo ocsigen /proteinau cludo mewn imiwnedd cynhenid.

Mae Christopher yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch, ac roedd wrth ei fodd yn arwain y Tîm Academaidd (2015 – 2017) yn yr Adran Biowyddorau er mwyn sicrhau achrediad diamod ar gyfer yr holl raglenni gradd (BSc) a restrir. Mae Christopher yn aelod etholedig o Senedd Prifysgol Abertawe, yn Arweinydd Iechyd a Diogelwch yr Adran Biowyddorau, ac yn Swyddog Diogelwch Biolegol ac Addasu Genetig ar gyfer Gwyddoniaeth.

Y tu allan i’r Brifysgol, mae Christopher yn aelod etholedig o Gymdeithas Frenhinol Bioleg a’r International Society of Developmental and Comparative Immunology, ac yn aelod o Fwrdd Golygyddol Pathogens, cyfnodolyn yr MDPI.

Meysydd Arbenigedd

  • Imiwnoleg a Haematoleg Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn
  • Strwythur, Swyddogaeth ac Amrywiaeth Proteinau
  • (e.e. haemocyanin a ffenolocsidasys)
  • Dyframaethu a Physgodfeydd (Pysgod Cregyn)
  • Modelau clefydau amgen

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae dull addysgu Christopher yn canolbwyntio ar baratoi myfyrwyr bioleg gyda sgiliau labordy allweddol ar draws pob lefel. Fel Cydgysylltydd Modiwl ar gyfer Bioleg Celloedd a Microbau BIO104, fe wnaeth Christopher adnewyddu’r proffil cyflwyno gan roi mwy o bwyslais ar ‘raddfa’ fel cysyniad trothwy allweddol ym maes bioleg, e.e., o facrofoleciwlau i gelloedd i feinwe. Ar lefel 3, fe wnaeth Christopher ddylunio a chyflwyno cwrs dwys ar Sgiliau Labordy Proffesiynol (BIO340) sy’n rhoi’r sgiliau a’r amrywiol brofiadau i fyfyrwyr sydd i’w disgwyl gan raddedigion y gwyddorau modern.

At hyn, mae Christopher yn cyfrannu at Fioleg Foleciwlaidd ac Esblygiadol (BIO108), ac yn gweithredu fel Dirprwy Gydgysylltydd y Modiwl Celloedd ac Imiwnedd (BIO236), a Chlefydau Anifeiliaid Dyfrol (BIO313) ers 2015.

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau