Trosolwg
Mae gan Christoforos BSc mewn Astudiaethau Economaidd Rhyngwladol ac Ewropeaidd o Brifysgol Economeg a Busnes Athen a gradd Meistr yn y Celfyddydau mewn Meddwl yn Gymdeithasol ac yn Wleidyddol o Brifysgol Warwig. Dyfarnwyd iddo hefyd PhD mewn Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Caeredin. Cyn iddo ymuno â'r Ganolfan Pobl a Sefydliadau, bu'n gweithio fel Cydymaith Ymchwil yn Ysgol Fusnes Adam Smith, Prifysgol Glasgow, ac fel Cynorthwy-ydd Addysgu Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Caeredin.
Mae prif ddiddordebau ymchwil Christoforos yn cynnwys y rhyngberthnaseddoedd rhwng athroniaeth, damcaniaeth gymdeithasegol, seicoleg gymdeithasol, ac astudiaethau sefydliadau. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar ei brosiect i ddiffinio gwrth-realaeth ddamcaniaethol-gymdeithasegol fel llwybr amgen at ontoleg gymdeithasol, drwy dynnu’n feirniadol ar draddodiadau realaeth feirniadol, lluniadaeth gymdeithasol, a phragmatiaeth.