An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Dr Chris Pak

Dr Chris Pak

Darlithydd, English Literature

Cyfeiriad ebost

106A
Llawr Cyntaf
Technium Digidol
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Chris Pak yn arbenigo mewn astudio Ffuglen Wyddonol a bu'n un o feirniaid gwobr Arthur C. Clarke rhwng 2018 a 2020. Enillodd BA mewn Saesneg Iaith a Llenyddiaeth, MA mewn Astudiaethau Ffuglen Wyddonol a doethuriaeth yn Adran Saesneg Prifysgol Lerpwl. Ei benodiad ôl-ddoethurol cyntaf oedd fel ymchwilydd ar brosiect Ieithyddiaeth Corpws a ariannwyd gan Leverhulme, “‘People’, ‘Products’, ‘Pests’ and ‘Pets: The Discursive Representation of Animals’” (Prifysgol Caerhirfryn), a'i ail oedd ar brosiect Dyniaethau Digidol wedi'i ariannu gan Volkswagen, “Modelling Between Digital and Humanities: Thinking in Practice” (King’s Digital Lab). Ef yw awdur Terraforming: Ecopolitical Transformations and Environmentalism in Science Fiction (Gwasg Prifysgol Lerpwl, 2016), cyfraniad at y Dyniaethau Amgylcheddol, Astudiaethau Iwtopaidd ac Ôl-wladoliaeth sy'n dadansoddi sut mae trawsnewidiadau i amgylcheddau mewn ffuglen wyddonol yn cwestiynu gwleidyddiaeth fyd-eang newid yn yr hinsawdd a'r Anthroposen.

Meysydd Arbenigedd

  • Ffuglen Wyddonol a Diwylliant Poblogaidd
  • Ffuglen Ddamcaniaethol / Ffantastig
  • Gwyddoniaeth a Llenyddiaeth
  • Dyniaethau Amgylcheddol
  • Dyniaethau Digidol
  • Dyniaethau Meddygol
  • Astudiaethau Dynion-Anifeiliaid
  • Iwtopia