Dr Alvin Orbaek White

Dr Alvin Orbaek White

Athro Cyswllt Er Anrhydedd, Science and Engineering
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Dr Alvin Orbaek White (Dr Orb) sefydlwr a Phrif Swyddog Gweithredol TrimTabs Ltd a bellach yn Athro Cysylltiol Anrhydeddus . Symudodd i'r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) o Sefydliad Technoleg Massachusetts  (Cambridge, MA, UDA) Adran Peirianneg Fecanyddol gan ennill PhD mewn Cemeg o Brifysgol Rice  (Houston, TX, UDA). Mae Alvin yn arbenigo mewn integreiddio atebion tuag at alw a chyflenwad ynni cynaliadwy.

Ei nod yw effeithio ar yr amgylchedd yn lleol ac yn fyd-eang mewn dwy ffordd:

Gwella'r seilwaith ynni gan ddefnyddio nanodiwbiau carbon i drawsyrru trydan

Troi gwastraff carbon yn gynhyrchion gwerth uwch fel nanodiwbiau carbon.

Nid her dechnegol yn unig yw diogelwch ynni byd-eang oherwydd rhaid i ddiogelwch hirdymor mewn cymdeithas gytbwys hefyd gyfrif am yr elfen ddynol, pobl. Dylai fod gan bawb fynediad parod at dechnolegau sydd eu hangen a chyfleoedd i dyfu a ffynnu hyd eithaf eu gallu dynol. Ar lefel unigol, mae Alvin yn gweithio i greu amgylchedd dysgu cynhwysol a deinamig yn ei ystafelloedd dosbarth (yn bersonol a rhithwir) i sicrhau twf ei fyfyrwyr i fynd y tu hwnt i'w addysgu. Mae’n gweithredu fel aelod o Fwrdd Rhwydwaith Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) Prifysgol Abertawe i ysgogi twf o fewn y Brifysgol a menter Academaidd; gyda nodau a gobeithion i ddod â chyfle cyfartal i'r holl fyfyrwyr a staff waeth beth fo'u cefndir.

Alvin hefyd yw sylfaenydd TrimTabs Ltd, cwmni technoleg sy'n ymroddedig i ddatrys problemau byd-eang gyda'r effaith fwyaf. Crëwyd TrimTabs i fasnacheiddio technoleg a ddatblygodd Alvin a all drosi plastigion yn gydrannau trydanol.

Gellir dod o hyd i ddiweddariadau pellach ar ei waith a'i effaith ynghyd â CV wedi'i ddiweddaru ar sail dreigl ar ei wefan bersonol.

Meysydd Arbenigedd

  • Synthesis nanodiwbiau carbon
  • Nanoddeunyddiau a chymhwyso tuag at ddyfodol ynni byd-eang diogel
  • Economi gylchol, ailgylchu cemegau a defnyddio adnoddau
  • Blockchain, dosbarthu ynni a dyfodol cynhyrchu ynni sydd wedi'i ddatganoli

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae dysgu'n ymdrech gydol oes. Mae'n broses barhaus sy'n gofyn am wersi gwahanol ar wahanol adegau.

Ymchwil Cydweithrediadau