Trosolwg
Yr Athro Andrew R. Barron yw Cadeirydd Sêr Cymru ar Ynni Carbon Isel a'r Amgylchedd, lle mae ei ymchwil yn cynnwys cymhwyso nanodechnoleg wrth ymdrin â phroblemau sylfaenol ym maes ymchwil ynni.
Ef yw sylfaenydd a chyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI), buddsoddiad o £38 miliwn ar y Campws Gwyddoniaeth ac Arloesi newydd a fydd yn canolbwyntio elfennau o ymchwil ynni'r Brifysgol gyda ffocws unigryw ar ddiogelwch.
Cafodd ei addysg yng Ngholeg Imperial (Llundain) ac mae'r Athro Barron wedi bod â swyddi ym Mhrifysgol Texas yn Austin a Harvard ac mae'n parhau i ddal y Welch Chair of Chemistry Charles W. Duncan, Jr. ac yn Athro Gwyddor Deunyddiau ym Mhrifysgol Rice.
Mae'r Athro Barron yn awdur dros 400 o gyhoeddiadau, 20 Patent, 5 llyfr, ac mae wedi derbyn llu o wobrau gan gynnwys Gwobr Ymchwil Uwch Wyddonydd Hümboldt, Medal Corday Morgan, Medal Meldola, a Dyfarniad Norman Hackerman cyntaf erioed y Welch Foundation.
Mae'n Gymrawd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol, ac yn 2009 fe'i penodwyd yn Arloeswr Gwadd Tywysog Cymru. Yn 2011 enillodd Wobr Cyflawniad Oes Canolfan Technoleg Houston mewn Nanodechnoleg a Gwobr Technoleg y Byd am Ddeunyddiau.