Trosolwg
Ymunodd Alex â Phrifysgol Abertawe ym mis Ionawr 2018, a chyn hynny'n bu'n Ddarlithydd ym Mhrifysgol Sussex. Mae ganddo PhD o Brifysgol Caeredin (2015), gradd meistr o Goleg Prifysgol Llundain (2010) a gradd israddedig o Brifysgol Rhydychen (2004). Cafodd ei alw i'r Bar yn 2006.
Mae ei brif ymchwil mewn theori gyfansoddiadol, gyda'i draethawd PhD yn archwilio'r cwestiwn a yw adolygiad barnwrol o ddeddfwriaeth yn wrth-ddemocrataidd. Mae gan Alex ddiddordeb arbennig yn nimensiwn symbolaidd dylunio cyfansoddiadol, ac yn y berthynas rhwng sefydliadau gwleidyddol, arferion gwleidyddol a gwerthoedd gwleidyddol.