Trosolwg
Mae Ashley yn dod o Ganada yn wreiddiol ac mae’n aelod o’r Nipissing First Nation, mae hi’n darlithio ar broblemau cymdeithasol, economeg polisïau cymdeithasol, diwylliant rhianta a chymdeithaseg iechyd a salwch.
Mae ei hymchwil yn ystyried y pwysigrwydd cynyddol a roir i emosiynau ac ymddygiad yn ystod cyfnod sydd “heb ddewis arall” i gyfalafiaeth. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn dehongliadau ‘bregus’ o destunau dynol yn y rhethreg ynghylch problemau cymdeithasol newydd. Hi yw awdur Semiotics of Happiness: rhetorical beginnings of a public problem a gyhoeddwyd gan Bloomsbury yn 2015 a Significant Emotions sydd ar y gweill ac sy’n ystyried twf a chwymp yr atebion emosiynol newydd i broblemau cymdeithasol, atebion sy’n ddi-baid mae’n debyg. Mae hi’n aelod o fwrdd golygu Zero Books ac yn ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o gyhoeddiadau ar-lein a chyhoeddiadau print poblogaidd.