Trosolwg
Ymunodd Dr Alisher ag Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe yn 2017. Cyn hynny, roedd yn gynorthwyydd addysgu ym Mhrifysgol Hull.
Graddiodd Dr Alisher o Brifysgol Essex gyda gradd MSc mewn Cyfrifeg a Chyllid. Yn ddiweddarach, aeth ymlaen i astudio ei radd doethur ymhellach yn Ysgol Fusnes Hull ar ôl ennill ysgoloriaeth lawn gan Brifysgol Hull.
Cyn dod yn rhan o'r byd academaidd, bu'n gweithio'n helaeth ar draws gwahanol sectorau diwydiant, yn y Deyrnas Unedig a thramor.