Mynedfa flaen Grove
Llun o Alice Hoon

Dr Alice Hoon

Athro Cyswllt, Medicine

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 606734

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Cwblhaodd Alice gwrs BA (Anrh) mewn Seicoleg a MSc mewn Dadansoddi Ymddygiad yn Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe. Testun ei Doethuriaeth oedd ymddygiad hapchwarae, gan gymhwyso Damcaniaeth y Ffrâm Berthynol i’r dewis o beiriant ceiniogau. 

Ar hyn o bryd mae Alice yn addysgu Seicoleg Feddygol ar y rhaglen Meddygaeth i Raddedigion a BSc mewn Gwyddor Feddygol Gymhwysol.

Mae Alice yn parhau i wneud gwaith ymchwil ar hapchwarae, ac yn ddiweddar dyfarnwyd grant iddi i wneud astudiaeth ddichonoldeb o Reolaeth Ymddygiad fel triniaeth ar gyfer caethiwed i hapchwarae.  

Meysydd Arbenigedd

  • Damcaniaeth ffrâm berthynol
  • Therapi derbyniad ac ymrwymiad
  • Seicoleg feddygol
  • Ymddygiad hapchwarae
  • Dadansoddi ymddygiad
  • Addysg feddygol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Mae Alice yn frwdfrydig am addysgu egwyddorion seicolegol er mwyn galluogi myfyrwyr i ddeall yn well patrymau meddwl ac ymddygiad cleifion. Mae Alys yn addysgu pynciau amrywiol gan gynnwys  seicopatholeg, seicoleg iechyd, dadansoddi ymddygiad, therapïau y drydedd don, a dulliau ymchwil.

Ar hyn o bryd mae Alice yn Arweinydd Modiwl PM 137 Cyflwyniad i Seicoleg Feddygol a PM 258 Seicoleg Feddygol Ganolradd. Mae’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.  

Ymchwil Prif Wobrau