Ymuno  Rhwydwaith GREAT

Sefydlwyd GREAT fel rhwydwaith i ymchwilwyr, darparwyr gwasanaeth, pobl â phrofiad go iawn a llunwyr polisi. Rydym ni'n awyddus i glywed gan bobl yn y grwpiau hyn yng Nghymru â diddordeb mewn ymuno â'r rhwydwaith a chydweithio i ddatblygu ymchwil, addysg a thriniaeth mewn perthynas â gamblo.

Wrth ddatblygu mentrau o'r fath, rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad unigryw y rhai hynny sydd wedi cael profiad go iawn o niwed gamblo yn benodol. Drwy gymryd rhan, gallech chi ddefnyddio eich profiad i helpu i lywio darn o ymchwil a datblygu dealltwriaeth newydd a fydd o fudd i eraill. Bydd unrhyw gymryd rhan yn gwbl gyfrinachol.

Os hoffech chi ymuno â Rhwydwaith GREAT Cymru, neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni yn great@abertawe.ac.uk.

Llun o ddwylo'n teipio ar fysellfwrdd.