Ymchwil, Addysg a Thrin Gamblo

Diben Rhwydwaith GREAT Cymru, sydd wedi'i leoli ym Mhrifysgol Abertawe, yw ysgogi ymchwil i bob math o niwed sy'n gysylltiedig â gamblo ymhlith unigolion, teuluoedd a chymunedau, gan annog addysg amdano a dulliau i'w drin.

Mae gamblo yn weithgaredd hamdden sy'n gynyddol boblogaidd, ond ar gyfer carfan sylweddol a chynyddol o'r boblogaeth, gall droi'n ddibyniaeth ac arwain at ffurfiau amrywiol ar niwed cysylltiedig.

Fel rhwydwaith o ymchwilwyr, darparwyr gwasanaeth, pobl â phrofiad go iawn a llunwyr polisi, mae GREAT yn cynnig triniaeth ar sail tystiolaeth a gwasanaethau addysgol ac ymgynghori ar gyfer yr holl sectorau, mae'n cynhyrchu ymchwil ddiduedd o safon a adolygir gan gymheiriaid, ac yn gweithredu fel cronfa wybodaeth ar gyfer tystiolaeth sydd wedi'i seilio ar ymchwil wyddonol a pholisïau am gamblo a'i niwed cysylltiedig.

 Logos Rhwydwaith GREAT Cymru, ei gyllidwyr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Llywodraeth Cymru.

Newyddion ac Adnoddau

Cymryd Nodiadau

Cysylltwch â ni

Rhwydwaith GREAT Cymru

Swyddfa 915A
Nawfed Llawr, Tŵr Vivian
Prifysgol Abertawe
Parc Singleton
Abertawe SA2 8PP

great@swansea.ac.uk

Prosiectau ymchwil

GAMLINK

GAMLINK logo

GREAT Prosiectau Blaenorol

Cyfarwyddwr y Rhwydwaith

Yr Athro Simon Dymond

Athro, Psychology
+44 (0) 1792 295602
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Swyddog Hwyluso Ymchwil GREAT

Cynorthwy-ydd Gweinyddol GREAT

Rheolwr Prosiect Ymchwil