Coronafeirws: y diweddaraf

Dr David Turner

Beth ddigwyddodd i bobl anabl yn ystod y Chwyldro Diwydiannol? Sut mae ein dealltwriaeth o ddigwyddiadau a phrosesau hanesyddol allweddol yn newid os ydym yn eu hystyried o safbwynt y bobl 'ar yr ymylon'?

Mae'r prosiect Anabledd a'r Gymdeithas Ddiwydiannol , dan arweiniad Prifysgol Abertawe, wedi ceisio ateb y cwestiynau hyn drwy gynnal astudiaeth fawr o brofiadau pobl anabl yng nghymunedau diwydiannol Prydain rhwng 1780 a 1948. Gan ganolbwyntio'n bennaf ar lo, sector a oedd yn hanfodol i ehangu diwydiannol Prydain, ond a oedd yn nodweddiadol am nifer mawr o anafiadau, mae'r gwaith hwn wedi datgelu hanesion cudd cannoedd o ddynion, menywod a phlant a gafodd eu hanablu gan eu profiadau o lafur. Mae'r ffeithiau am farwolaethau yn y diwydiant glo yn ddigon hysbys, ond nid yw nifer yr anableddau - o ganlyniad i ffactorau amrywiol megis toeon yn cwympo neu salwch cronig - yn hysbys. Mae ein hymchwil wedi dangos bod y niferoedd o ddynion, menywod a plant â namau parhaol o ganlyniad i weithio yn y diwydiant glo, neu ei wasanaethu, yn llawer uwch na nifer y marwolaethau, gydag efallai 100 o anafiadau am bob marwolaeth. Er i ddeddfwriaeth ac archwiliadau diogelwch leihau nifer y marwolaethau yn y diwydiant glo, parhaodd cyfraddau anafiadau ac anableddau'n uchel, hyd yn oed yn yr ugeinfed ganrif.

Mae ein gwaith wedi herio’r stereoteipiau confensiynol am bobl anabl fel rhai 'dibynnol' gan ddatgelu eu rolau amrywiol yng nghymunedau'r maes glo, ac archwilio'r ffyrdd y buont yn ymateb i anaf neu newid yn eu gallu corfforol. Mewn gwirionedd, nid oedd anabledd o angenrheidrwydd yn golygu diwedd bywydau gweithio pobl a byddai rhai glowyr anabl yn dychwelyd i weithio dan y ddaear hyd yn oed. Er y gallai newidiadau mewn technolegau ac arferion gwaith effeithio ar ragolygon cyflogaeth glowyr anabl, gellid dweud yr un peth am fesurau a gyflwynwyd i'w 'helpu', megis y ddeddfwriaeth digolledu gweithwyr a ddaeth i rym ym 1897. Gan wybod eu bod yn atebol am ddamweiniau yn y gweithle, daeth cyflogwyr yn anfodlon cyflogi gweithwyr anabl, ond caent eu herio i gyflawni eu cyfrifoldebau gan undebau llafur. Roedd gweithwyr sâl ac anabl yn wynebu llawer o anawsterau yn yr oes cyn y wladwriaeth les fodern. Serch hynny, nid oeddent yn ddiymadferth oherwydd eu hanabledd. Sefydlodd glowyr gymdeithasau gwirfoddol a oedd yn cynnig tâl salwch a gofal meddygol yn gyfnewid am gyfraniadau bach rheolaidd. Fel unigolion, a thrwy undebau llafur, ymladdai glowyr anabl am ofal meddygol a chymorth ariannol gwell, gan ddwyn cyflogwyr i gyfrif a herio esgeulustod meddygol.

Arweiniodd damweiniau a chlefydau at ffurfiau cynnar o ymgyrchu dros hawliau pobl anabl wrth i Brydain ddiwydiannu. Wrth i'r glowyr ymladd dros gymorth gwell, bu gweithwyr eraill yn defnyddio effeithiau anablu llafur i wrthdystio yn erbyn cam-fanteisio. Ym mis Awst 1832 gorymdeithiodd miloedd o weithwyr ffatri drwy Fanceinion, gan gludo baneri â lluniau o weithwyr wedi'u hanafu arnynt, er mwyn galw am oriau gwaith byrrach yn y melinau tecstil. Yng nghyfnod y Chwyldro Diwydiannol dechreuodd pobl anabl ddarganfod eu llais gwleidyddol, fel unigolion a chyda'i gilydd. Roedd pobl anabl ym mhobman, ond mae hanesion confensiynol diwydiannu'n anwybyddu eu straeon.