Prifysgol Abertawe oedd y brifysgol gyntaf ym Mhrydain i gynnig modiwl Saesneg sy'n canolbwyntio ar wobr lenyddol yn unig, lle mae myfyrwyr yn astudio'r gweithiau cyfoes ffuglennol, barddoniaeth, drama a straeon byrion ar restr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas Prifysgol Abertawe. Mae myfyrwyr a astudiodd y modiwl hefyd wedi ysgrifennu adolygiadau a blogiau, ac wedi recordio cyfres o bodlediadau llawn gwybodaeth gyda'r chwech awdur ar y rhestr fer. Cafodd y rhain eu cyhoeddi ar y cyd yn llwyddiannus ag Arolwg Celfyddydau Cymru.
Cafodd 24 o gyfleoedd am interniaeth eu creu fel rhan o'r wobr eleni, gan roi'r cyfle i fyfyrwyr
gael profiad gwerthfawr o reoli digwyddiadau, lletygarwch a chysylltiadau cyhoeddus. Helpodd myfyrwyr gyda'r gwaith o drefnu a chynnal y seremonïau gwobrwyo mawreddog, a'r digwyddiadau a oedd yn gysylltiedig â'r wobr a gynhaliwyd yng Ngŵyl fyd-enwog y Gelli.
‘Y modiwl hwn oedd y modiwl mwyaf buddiol a phleserus yn fy mlwyddyn olaf, rhoddodd yr wybodaeth a'r profiad i roi hwb i'm gyrfa mewn cyhoeddi ar ôl y Brifysgol.' (Molly Holborn)
‘Diolch i Dr Nick Taylor-Collins a Dr Elaine Canning am bopeth y maen nhw wedi'i wneud mewn perthynas â'r modiwl hwn. Rwy'n credu fy mod i'n siarad ar ran pob aelod o'r dosbarth pan rwy'n dweud ei fod wedi ein newid ni er gwell. Gobeithio y bydd yn parhau i wneud hynny!' (Jacob Fleming)
'Mae wedi bod yn agoriad llygad dysgu am y prosesau sy'n rhan o Wobr Dylan Thomas - o'r broses gyflwyno, i'r cysylltiadau cyhoeddus, i'r beirniadu a chreu rhestr fer. Drwy gyflwyno'r modiwl yn ail semester y drydedd flwyddyn, rydym hefyd yn cael cyfle gwych i synnu ar yr hyn rydym wedi'i ddysgu yn ystod ein gradd a'i gymhwyso i'r testunau rydym yn eu darllen - ac oherwydd bod y llyfrau'n newydd i bawb, gan gynnwys y tiwtor, mae'n cynnig amrywiaeth ddiddorol o ymagweddau. Ac wrth gwrs, mae'r cyfle i gwrdd â'r awduron, a thrafod eu gwaith, wir yn brofiad gwych.' (Niall MacGregor)
'Yn fy marn i, roedd y modiwl Gwobr Dylan Thomas yn saib calonogol o'r modiwlau traddodiadol sy'n rhan o'r radd Llenyddiaeth Saesneg. Rhoddir cymaint o bwyslais ar edrych tua'r gorffennol, mae wedi bod yn gyfle gwych i gymhwyso'r sgiliau y gwnaethom eu dysgu yn ystod y ddwy flynedd gyntaf i nofelau cyfoes. Ni fyddwn wedi gallu meddwl am ddarlithydd gwell i ddod â'r modiwl yn fyw na Dr Nick Taylor-Collins. Byddwn yn hoffi'n fawr pe bai'r modiwl yn parhau oherwydd ei fod yn ychwanegiad gwych i'r maes llafur.' (Daniel Morgan)