Bydd gan Abertawe le arbennig yn fy nghalon am byth
- Alessandra Cingi
- Alessandra Cingi
"Mae fy ngradd israddedig ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod o fudd mawr i mi wrth ennill lle ar y cwrs Therapi Iaith a Lleferydd. Mae llawer o'r modiwlau a astudiais yn debyg iawn i'r modiwlau y byddaf yn eu hastudio ym mis Medi, a fydd yn fantais fawr i mi."
"Rwyf hefyd yn credu bod cael gradd mewn Saesneg wedi cyfrannu at ennill lle ar y cwrs SLT, lle mae cystadleuaeth gref am nifer cyfyngedig o leoedd."
- Samantha Louise Thomas
"Dwi'n cofio fy ymweliad cyntaf â Phrifysgol Abertawe ... yr hyn a'm tarodd yn syth oedd lleoliad trawiadol y campws, yn swatio ym mharc hyfryd Singleton ac yn edrych dros Fae Abertawe. Lleoliad sydd wirioneddol yn codi'r ysbryd! Roeddwn hefyd yn dwlu ar y syniad o gampws sengl gyda'r holl wasanaethau a phopeth sydd ei angen arnoch yn yr un lle - ac ar yr un pryd, yn ddigon bach fel bod popeth wrth law. Pan ddechreuais ar fy rhaglen, ni ches i fy siomi o gwbl: roedd y darlithwyr i gyd yn wybodus, yn ddymunol ac yn gyfeillgar, a bob amser yn barod i helpu. Roedd yr astudio'n ddwys, ond teimlais fy mod yn cael fy ngrymuso i ddysgu am wahanol agweddau ar ieithyddiaeth, a gweld sut mae'n rhan o ddarlun ehangach. Dyna fodlonrwydd! Bydd gan Abertawe le arbennig yn fy nghalon am byth. Roedd yr awyrgylch cynnes a chroesawgar yma, yn ogystal ag ansawdd uchel yr addysgu, wedi helpu i sicrhau mai’r tair blynedd ddiwethaf oedd y cyfnod hapusaf, llawnaf a mwyaf gwobrwyol yn fy mywyd. Rwyf nawr yn athro Saesneg."
- Alessandra Cingi