Croeso i Iaith Saesneg, TESOL ac Ieithyddiaeth Gymhwysol

Mae ein rhaglenni gradd yn ystyried ffyrdd o ddadansoddi gwybodaeth am iaith a'r defnydd o iaith dros gyd-destunau ac amser. Byddwn yn edrych ar:

  • sut defnyddir iaith i gyfathrebu ym mywyd pob dydd, gan gynnwys mewn cyd-destunau gwahanol;
  • sut mae iaith wedi datblygu dros amser; 
  • sut rydym yn dysgu ein hiaith gyntaf ac ieithoedd dilynol;
  • sut mae iaith yn gweithredu mewn cyd-destunau dwyieithog;
  • sut rydym yn cynhyrchu ac yn deall iaith mewn amser go iawn, yn ogystal â
  • sut mae'r system iaith sylfaenol yn gweithio ar gyfer seiniau a gramadeg.

Mae ein haddysgu yn ymwneud â materion y byd go iawn, gydag effeithiau hollbwysig ar unigolion a chymunedau. Mae'r rhain yn cynnwys defnyddio iaith i ddarbwyllo a chamarwain (yn enwedig yn y cyfryngau cymdeithasol); effaith tafodiaith ac acen ar hunaniaeth; her dysgu neu addysgu ieithoedd newydd.

Yn TESOL, rydym ni hefyd yn ystyried yr her o ddysgu ac addysgu Saesneg fel iaith newydd, gan gynnwys:

  • sut caiff dulliau gwahanol eu defnyddio i addysgu iaith;
  • sut mae plant yn dysgu iaith ychwanegol;
  • sut mae damcaniaethau am gaffael ail iaith yn gysylltiedig ag addysgu;
  • sut mae ymchwil bresennol i Addysgu'r Iaith Saesneg yn llywio ymarfer.

Mae'r cyfleoedd a gynigir i fyfyrwyr ar ein graddau BA yn cynnwys y cyfle i ennill cymhwyster addysgu proffesiynol a gydnabyddir yn rhyngwladol (CELTA Caergrawnt) a'r cyfle i dreulio semester neu flwyddyn yn astudio dramor.