Sut mae Abertawe'n wahanol?

1. Pan fyddwn yn dweud ‘Croeso’ neu ‘Shwmae’, byddwn wir yn ei olygu. Mae pawb yn dweud ei bod yn anodd cyfleu mewn geiriau y teimlad ‘cynnes’ a gewch pan fyddwch yn ymweld â'n campws. Gall y tîm arobryn, Gwasanaethau Cymorth Myfyrwyr, helpu'ch plentyn o ran unrhyw bryderon sydd ganddo yn ystod ei astudiaethau.

2. Os byddwch yn gofyn i unrhyw un neu ragor o'n graddedigion beth yw eu hoff beth am Brifysgol Abertawe, byddant yn sicr yn dweud y lleoliad. Ni yw'r unig brifysgol yn y Deyrnas Unedig â thraeth. Gall ein myfyrwyr a'n staff gerdded yn syth o'u darlithoedd i draeth tywod, braf, ar drothwy prydferthwch Penrhyn Gŵyr.

3. Rydym wedi cael un o'r buddsoddiadau mwyaf yn y Deyrnas Unedig i ddatblygu ein campws er mwyn gwella cyfleusterau i fyfyrwyr a chyfleusterau academaidd, a gefnogir gan Fanc Buddsoddi Ewrop.

4. Gall y gost o ran mynd i'r brifysgol fod yn bryder i rieni, ond Abertawe yw un o'r dinasoedd mwyaf cost-effeithiol yn y Deyrnas Unedig. Yn ôl arolwg diweddar gan Fanc Lloyds ynglŷn â bywyd myfyrwyr, Prifysgol Abertawe oedd yn cynnig y gwerth gorau am arian yn y Deyrnas Unedig o ran llety preifat. Mae opsiynau am lety myfyrwyr i ddiwallu pob angen a chyllideb. Mae'r holl lety ar y campws yn darparu diogelwch ddydd a nos, ac mae'r pris yn cynnwys yr holl filiau cyfleustodau a Wi-Fi.

5. Mae ansawdd bywyd yn Abertawe yn wych. Yn ôl pleidlais, dyma un o'r dinasoedd gorau i fyw ynddi yn y Deyrnas Unedig. Mae gennym staff hapus a myfyrwyr hapus.

Rhagoriaeth mewn Addysgu

Myfyriwr a darlithwr yn labordy Peirianneg