Ffioedd Dysgu Israddedig

Grantiau'r Llywodraeth

Mae gan rai myfyrwyr hawl i dderbyn grantiau prawf modd nad oes angen eu had-dalu i helpu gyda chostau byw.  I ddarganfod os yw eich plentyn yn gymwys, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk neu www.gov.uk/studentfinance

Ad-dalu Benthyciadau

Ni fydd eich plentyn yn dechrau ad-dalu ei fenthyciad myfyrwyr nes ei fod yn ennill dros £27,295.  Bydd disgwyl i'ch plentyn dalu 9% o bopeth y bydd yn ei ennill dros £27,295, e.e. os yw eich plentyn yn ennill cyflog o £30,000, byddai hyn yn golygu talu tua £19 y mis.

Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau

Mae Abertawe yn cynnig ystod o ysgoloriaethau, gan gynnwys hyd at £3,000 ar gyfer Rhagoriaeth Academaidd a £1,000 y flwyddyn ar gyfer Rhagoriaeth Chwaraeon, ynghyd â bwrsariaethau ar sail incwm.  Am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau. Mae Ysgoloriaethau Cyfrwng Cymraeg hefyd ar gael ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'u cwrs naill ai i gyd, neu'n rhannol drwy'r Gymraeg.

Gwaith Rhan-amser

Mae llawer o fyfyrwyr yn cymryd gwaith rhan-amser yn ystod y tymor a gwyliau. Mae yna lawer o gyfleoedd i weithio ar y campws, ac mae'r ddinas yn cynnig llawer iawn o waith tymhorol i'r rhai sy'n ceisio ategu at eu benthyciadau.

Benthyciadau Cynhaliaeth

Mae benthyciadau cynhaliaeth wedi'u cynllunio i helpu gyda threuliau megis llety a bwyd.  Mae'r rhain yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys incwm y cartref a lle mae'r myfyriwr yn dewis astudio.  Fel arfer telir benthyciadau cynhaliaeth i'r myfyriwr mewn tair rhanddaliad trwy gydol y flwyddyn. Ewch i'n tudalen am fenthyciadau cynhaliaeth i ddysgu rhagor.