Arloesedd ym maes Mecaneg Gyfrifiadurol

Gellir olrhain hanes Canolfan Zienkiewicz yn ôl i ddechrau'r 1960au, pan ddaeth y diweddar Athro Olek C. Zienkiewicz yn Bennaeth yr Adran Peirianneg Sifil yn Abertawe.

Mae'r Adran Peirianneg Sifil yn Abertawe yn adnabyddus am arloesi ym maes mecaneg gyfrifiadurol yn gyffredinol ac ym maes dulliau elfen feidraidd yn benodol.

Arweiniodd brwdfrydedd a gwaith caled yr Athro Zienkiewicz at genhedlaeth newydd o ymchwilwyr mecaneg gyfrifiadurol yn Abertawe a thu hwnt. Roedd yr Athro Lewis FREng, yr Athro Morgan FREng a'r Athro Owen FRS, FREng ymhlith uwch aelodau o staff yr Adran hon.

Newidiodd y strwythur academaidd yn Abertawe tua deng mlynedd yn ôl. Mae'r ymchwilwyr mecaneg gyfrifiadurol o ddisgyblaethau peirianneg gwahanol bellach wedi cael eu dwyn ynghyd i ffurfio un grŵp. Yr enw gwreiddiol ar y grŵp ymchwil hwn oedd y Ganolfan Peirianneg Sifil a Chyfrifiadurol, a arweiniwyd gynt gan yr Athro Bonet, yr Athro Morgan a'r Athro Hassan yn eu tro.

Er anrhydedd i'r Athro Zienkiewicz, caiff y Ganolfan Ymchwil hon ei galw bellach yn Ganolfan Zienkiewicz ar gyfer Peirianneg Gyfrifiadurol.

Ar hyn o bryd, mae gan Ganolfan Zienkiewicz fwy na 40 o aelodau o staff academaidd emeritws, rhan amser a llawn amser, bron i 100 o fyfyrwyr ôl-raddedig a nifer fawr o aelodau ôl-ddoethuriaethol ac ymchwilwyr.

Mae'r Ganolfan yn gartref i chwe grŵp ymchwil ar hyn o bryd, sy'n canolbwyntio ar bynciau cyfoes pwysig ym maes ymchwil gyfrifiadurol. Mae'r grwpiau yn cynnwys ymchwilwyr sy'n adnabyddus yn rhyngwladol ac sydd â chysylltiadau agos ag IACM, ECCOMAS a chymdeithasau cysylltiedig.