Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014
Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014, cafodd Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe ei rhoi yn y 10fed safle yn y DU am ansawdd ymchwil yn y disgyblaethau Peirianneg.
Mae'r REF yn asesu ansawdd ymchwil yn y sector Addysg Uwch yn y DU, gan roi sicrwydd i ni ynglŷn â'r safonau rydym yn anelu atynt.
Ymchwil o'r Radd Flaenaf
Mae'r Fframwaith yn dangos bod 94% o ymchwil ein staff academaidd o'r radd flaenaf (4*) neu'n rhyngwladol ardderchog (3*). Mae hyn wedi cynyddu o 73% yn RAE 2008.
Mae gwaith ymchwil a gaiff ei arloesi yn y Coleg Peirianneg yn manteisio i'r eithaf ar arbenigedd staff academaidd yr adran. Mae'r gwaith ymchwil amlddisgyblaethol arloesol hwn yn llywio ein haddysgu gwych ac mae llawer o'n staff yn arweinwyr yn eu meysydd.
Uchafbwyntiau'r canlyniadau Peirianneg yn ôl yr Uned Asesu Peirianneg Gyffredinol:
- Mae Amgylchedd Ymchwil Abertawe yn yr ail safle yn y DU
- Mae Effaith Ymchwil yn y degfed safle yn y DU
- Mae Pŵer Ymchwil (staff sy'n cyfateb i 3*/4*) yn y degfed safle yn y DU
Coleg Peirianneg ymhlith y 10 gorau yn y DU ar gyfer Ymchwil
Ffynhonnell: Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (http://www.ref.ac.uk/) (cyfartaledd wedi'i bwysoli ar draws y pedair Uned Asesu Peirianneg)
Prifysgol |
FTE |
Paneli GPA Cyfunol |
Safle |
Prifysgol Oxford | 127.91 | 3.53 | 1 |
Prifysgol Cambridge | 243.06 | 3.49 | 2 |
Coleg Imperial Llundain | 344.10 | 3.38 | 3 |
Coleg y Brenin Llundain | 53.34 | 3.37 | 4 |
Prifysgol Caerdydd | 48.10 | 3.35 | 5 |
Prifysgol Dundee | 33.25 | 3.31 | 6 |
Prifysgol Caeredin | 91.80 | 3.30 | 7 |
Prifysgol Bryste | 123.38 | 3.30 | 7 |
Prifysgol Heriot-Watt | 108.84 | 3.30 | 7 |
Prifysgol Abertawe | 74.83 | 3.29 | 10 |